Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu negeseuon achub bywyd yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd

Postiwyd

'Cadwch eich llygaid ar y ffordd, a'ch dwylo ar y llyw' - dyma'r neges i yrwyr yr wythnos hon wrth i Wythnos Diogelwch Ffyrdd blynyddol Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân gael ei lansio'n genedlaethol i wneud ffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig yn fwy diogel.

 

Mae'r fenter yn pwysleisio canolbwyntio pan fyddwch y tu ôl i'r llyw gan fod gyrwyr sydd yn canolbwyntio ar rywbeth arall wrth yrru yn llawer mwy tebygol o achosi gwrthdrawiad ar y ffordd - rydym bedair gwaith yn fwy tebygol o gael damwain os ydych yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

 

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem yng Ngogledd Cymru, mae staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda Heddlu Gogledd Cymru i gefnogi'r ymgyrch 'Opsiynau' - sydd yn rhoi cynnig i yrwyr anghyfrifol dalu dirwy  neu fel arall siarad gyda'r naill sefydliad am gyngor.

 

Meddai, Brian Williams Rheolwr y Tîm Diogelwch Cymunedol: "Yn llawer rhy aml mae criwiau tân yn cael eu galw i wrthdrawiadau traffig difrifol sydd yn peri gofid i'r cyhoedd a'n diffoddwyr tân.  Rydym yn awyddus i weithio gyda'r cyhoedd i wneud ein gorau i leihau gwrthdrawiadau traffig yng Ngogledd Cymru a gan hynny leihau'r effaith difrifol y maent yn ei gael ar yrwyr, teithwyr a'u teuluoedd.

 

"Rydym yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon sydd ynghlwm â pheidio â chanolbwyntio y tu ôl i'r llyw er mwyn helpu i arbed bywydau.  Mae'r math o bethau sy'n mynd â sylw gyrrwr yn cynnwys defnyddio ffonau symudol, tecstio, systemau 'sat nav' a bwyta wrth yrru.

 

Yn aml iawn rydym yn gorfod delio gydag effaith goryrru a gyrru gwael, ac mae'r digwyddiadau hyn yn cael effaith ar deuluoedd a chymunedau ar draws Cymru.  Drwy weithio'n agos gyda gorsafoedd tân lleol, yr heddlu a phartneriaid ym maes diogelwch ffyrdd gallwn addysgu gyrwyr i yrru yn fwy gofalus."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen