Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffenics ar waith gyda phobl ifanc Ynys Môn

Postiwyd

Ymunodd pobl ifanc Ynys Môn â chwrs blaengar Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf.

 

Mae prosiect Ffenics yn gwrs gyda'r bwriad o ailgyfeirio egni pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil, a fydd yn cynorthwyo gydag integreiddio unigolion gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.

 

Gwelodd y cwrs ddisgyblion o Ysgol Syr Thomas Jones, a Chanolfan Menai, Llanfairpwll yn cymryd rhan yng ngweithgareddau'r wythnos, a gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Amlwch.

 

Meddai'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead, a fynychodd ddiwrnod olaf y cwrs: "Mae bob amser yn bleser mynychu parêd diwedd cwrs Ffenics, ac i gyflwyno tystysgrifau cwblhau i'r unigolion sy'n cymryd rhan.

 

"Mae gwybod pa mor bell y maent wedi dod yn ystod hyfforddiant yr wythnos, clywed sut maent wedi datblygu dros gyfnod mor fyr o amser, yn rhoi teimlad o falchder mawr i mi, ac mae'n profi bod y prosiect yn un llwyddiannus, ac yn effeithiol.

 

"Rydym yn gobeithio nawr na fydd y bobl ifanc yn anghofio eu profiadau dros yr wythnos, ac yn dechrau defnyddio eu sgiliau a'u hyder newydd ym mhob rhan o'u bywyd, gan eu helpu i ddod yn bobl gryfach."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen