Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Gofalwyr

Postiwyd

 

Bydd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Gofalwyr yr wythnos hon - gyda'r ffocws ar greu Cymunedau Cyfeillgar i Ofalwyr a chynyddu ymwybyddiaeth o'r gwaith a wneir gan ofalwyr ledled y wlad.

Mae tri o bob pump ohonom yn debygol o fod yn ofalwr yn ystod ein hoes, a nod yr ymgyrch hon yw sicrhau bod gan y gymuned ddealltwriaeth o'r gwaith a wneir gan ofalwyr, eu realiti beunyddiol a sut mae'n bosibl cynorthwyo gofalwyr a'u hanghenion.

Wrth i'n poblogaeth heneiddio ac wrth i bobl fyw'n hirach, bydd gofyn i fwy a mwy ohonom ofalu am rywun sy'n hyn, yn anabl neu'n ddifrifol wael, a'r amcangyfrifon yw y bydd yna, erbyn 2037, 9 miliwn o ofalwyr yn y Deyrnas Unedig.

Gall gofalu fod yn brofiad boddhaus a chadarnhaol, ond gall gofalu heb gymorth hefyd gael effaith negyddol ar iechyd rhywun, eu gyrfa, perthnasau a medrent golli'r gallu i fyw eu bywydau eu hunain y tu allan i'r rôl ofalu.

Bydd staff tân ac achub o Wrecsam a Sir y Fflint yn ymuno â NEWCIS i hyrwyddo Wythnos Genedlaethol Gofalwyr a chynyddu ymwybyddiaeth ynglyn â dementia ar ddydd Mercher 10fed Mehefin rhwng 10am a 4pm yng Nghanolfan Daniel Owen yn yr Wyddgrug.

I gael gwybodaeth bellach ar sut y medrwch gynorthwyo gofalwyr a chreu Cymuned sy'n Gyfeillgar i Ofalwyr, ac i weld pa ddigwyddadau sy'n eich ardal chi, ewch i http://www.carersweek.org/

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen