Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad yn Llanberis - Diweddariad

Postiwyd

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio gyda digwyddiad yn  Llanberis.

Meddai Alex Goss, Uwch-Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda digwyddiad ger rhaeadr yn Llanberis wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno y bore yma.  

"Roedd pedwar dyn wedi mynd i drafferthion ar ôl nofio ger Rheilffordd yr Wyddfa.  

"Cadarnhaf bod dyn 33 oed wedi marw o ganlyniad.  

"Mae dyn 21 oed yn dal i fod ar goll ac mae'r gwasanaethau brys wrthi'n chwilio amdano.

"Derbyniodd dau ddyn arall, 27 a 25 oed, driniaeth yn yr ysbyty ond maent wedi cael mynd adref erbyn hyn.

Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen