Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hyrwyddo diogelwch tân wrth i'r tywydd gynhesu

Postiwyd

Mae unwaith eto yn adeg o'r flwyddyn i hyrwyddo ein menter diogelwch flynyddol dros yr haf ledled Gogledd Cymru.

Mae'r haf wedi cyrraedd o'r diwedd, gyda'r tymheredd yn codi ac oriau o heulwen yn ystod dyddiau cyntaf mis Mehefin, a gyda hyn daw twf ym mhoblogrwydd gwersylla ac aros mewn carafanau ledled y wlad.

Mae set wirioneddol o beryglon yn gysylltiedig â hyn, ac os nad yw'r rhagofalon tân a ffordd ymarferol a chywir yn cael eu dilyn, gall peryglon godi mewn nifer o feysydd sy'n berthnasol i'r adeg hon o'r flwyddyn. Mae nifer o bethau y gellir eu gwneud gan bawb i sicrhau eu diogelwch eu hunain, diogelwch y bobl o'u cwmpas, ac amddiffyn yr amgylchedd.

Eleni rydym eisoes wedi gweld agwedd ragweithiol tuag at ledaenu neges diogelwch yr haf, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ar ymgyrch Meddwl yn Ddiogel, Yfed yn Ddiogel yn ymweld â gwersyllfeydd a pharciau gwyliau yn ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn ddiwedd mis Mai.

Yn ychwanegol at y digwyddiadau sydd eisoes wedi eu cynnal, bydd aelodau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn mynychu amrywiol ddigwyddiadau eraill yr haf megis yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioeau Sir (Môn, y Fflint a Dinbych, Meirionnydd) i hyrwyddo sut i aros yn ddiogel yr haf hwn.

Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Mae'n iawn cael hwyl, ond arhoswch yn ddiogelwch yng ngwres yr haf - dyna ein neges i bobl Gogledd Cymru wrth i'r haul ddisgleirio yn ein rhanbarth. Rydym eisiau i bobl gofio'r cyngor diogelwch rydym yn ei roddi - gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae'n bwysig bod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch a chymryd cyfrifoldeb am ein gweithrediadau ein hunain.

"Rydym eisiau i bawb fwynhau'r haf, ond rydym hefyd eisiau iddo fod yn haf diogel, ac mae camau allweddol y gellir eu cymryd i sicrhau bod y ddau beth yn digwydd."

Dyma ychydig o bwyntiau i'w cofio wrth wersylla ac aros mewn carafanau yn ystod haul yr haf:

  • Yn ddelfrydol, dylai pebyll for o leiaf 6 medr ar wahân.
  • Peidiwch byth â goleuo cannwyll neu ddefnyddio unrhyw fath o gyfarpar llosgi fflam mewn pabell neu'n agos ati.
  • Cyngor cyffredinol yw coginio y tu allan ac yn ddigon pell i ffwrdd o'r babell, pa bynnag mor fawr ydyw.
  • Ni ddylid defnyddio offer coginio mewn pebyll bychain.
  • Peidiwch â choginio yn agos at ddeunyddiau fflamadwy neu wair hir.
  • Storiwch hylifau fflamadwy neu silindrau nwy ddigon pell o'r babell.
  • Gall tân ddinistrio pabell mewn 60 eiliad felly mae'n hanfodol bod gennych gynllun dianc a bod yn barod i dorri eich ffordd allan o'r babell os oes tân.
  • Gwnewch yn siwr bod pawb yn gwybod beth i'w wneud os bydd eich dillad yn mynd ar dân - stopiwch, syrthiwch i'r llawr a rholio i ddiffodd y fllamau.
  • Holwch beth yw'r trefniadau ymladd tân ar gyfer y gwersyll.
  • Os nad oes gennych ffôn symudol, dylech ddarganfod lle mae'r ffôn agosaf.

I gael mwy o wybodaeth ar sut i aros yn ddiogel yr haf hwn, dilynwch y ddolen:

/media/4372/stay_safe_this_summer_eng_final.pdf

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen