Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio'r cynllun peilot 'Codymau yn y Cartref' yn Sir Ddinbych

Postiwyd

Fel rhan o gynllun peilot newydd bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydweithio gyda Phwynt Cyswllt Unigol Sir Ddinbych er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag codymau yn y cartref.

 

Nod y cynllun  yw gwneud defnydd gwell o'r adnoddau sydd ar gael er mwyn galluogi i unigolion fyw bywydau iachach a bywiog, byw yn annibynnol a lleihau unigedd.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn symud tuag at ddull mwy integredig o gadw pobl yn ddiogel yn y cartref sydd yn cynnwys cydweithio gyda gwasanaethau brys eraill, awdurdodau lleol a phartneriaid.

Bydd y dull hwn yn ystyried y risgiau tân yn ogystal â materion eraill yn ymwneud â diogelwch, megis diogelu'r cartref a symudedd, fel y gall mwy a mwy o drigolion bregus yn benodol gael y cyngor gorau posib o wahanol ffynonellau, yn dilyn dim ond un archwiliad yn y cartref.

Fel rhan o'r dull hwn mae'r cynllun peilot 'Codymau yn y Cartref' wedi ei lansio yn Sir Ddinbych ac fel rhan o'r cynllun hwn fe fydd staff y gwasanaeth tân ac achub yn cynnal Archwiliadau Diogelwch yn y Cartref  er mwyn helpu i weld a yw person mewn perygl o ddioddef codwm yn y cartref, ac os felly byddant yn anfon atgyfeiriad i Wasanaeth Atal Codymau Sir Ddinbych.

Mae Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac achub Gogledd Cymru yn egluro: "Mae un o bob tri o bobl dros 65 yn dioddef codwm yn y cartref pob blwyddyn ac mae hyn yn cynyddu i un o bob dau ar ôl cyrraedd 80 oed.  Yn genedlaethol mae 250,000 o bobl yn cael eu hanfon i'r uned achosion brys bob blwyddyn oherwydd eu bod wedi cael codwm.

"Yn aml iawn mae pobl sydd yn cael codymau yn y cartref ymhlith y grwp o bobl y mae'r Gwasanaeth yn eu targedu oherwydd eu bod hefyd mewn perygl o ddioddef tân yn y cartref. Y mae hyn felly yn gyfle i ddarparu archwiliad diogelwch yn y cartref mwy integredig ac anfon atgyfeiriadau i'n partneriaid, lle bo hynny'n addas, er mwyn helpu i gadw ein trigolion mwyaf bregus yn ddiogel.

"Mae ein staff diogelwch cymunedol wedi cael hyfforddiant gan Gydlynydd Atal Codymau Sir Ddinbych fel rhan o'r Pwynt Cyswllt Unigol. Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwneud Gogledd Cymru yn lle da i fyw, gweithio neu ymweld â hi.  Rydym eisoes yn ymgysylltu gyda'r cyhoedd ac yn mynd i gartrefi i gwblhau Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref ac rydym mewn sefyllfa i weld pwy sydd angen rhagor o gefnogaeth. Mae ein Harchwiliadau Diogelwch yn y Cartref wedi arwain at ostyngiad mewn tanau damweiniol yn y cartref. Ac felly drwy ofyn ychydig o gwestiynau yn ogystal â chwestiynau am ddiogelwch tân fe allwn helpu i wneud yn siwr bod yr unigolyn yn ddiogel yn gyffredinol."

 

Mae Gwasanaeth Atal Codymau Sir Ddinbych yn seiliedig ar y dystiolaeth bod cynlluniau tebyg yn llwyddo mewn ardaloedd eraill. Tan yn ddiweddar, roedd yn rhaid i unigolyn a oedd angen cymorth meddygol neu gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol aros rhai wythnosau hyd neu eu bod yn cael eu hatgyfeirio i'r adran berthnasol.   I oresgyn y broblem hon fe gydweithiodd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol  Betsi Cadwaladr  i sefydlu Gwasanaeth Atal Codymau sydd yn dilyn canllawiau'r Sefydliad Rhagoriaeth Glinigol Genedlaethol.

Meddai'r Cynghorydd Bobby Feeley, Prif Aelod Cabinet: "Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd dros y 12 mis diwethaf i gynnig pwynt cyswllt unigol sydd yn gwneud yn siwr bod pobl yn cael mynediad at wybodaeth a  chyngor a chymorth i hybu iechyd, lles ac annibyniaeth. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar adnabod anghenion y galwr a'u cyfeirio at wasanaethau eraill yn y gymuned leol neu eu trosglwyddo i'r gwasanaeth priodol. Mae hefyd yn galluogi i bobl gael mynediad at lu o wasanaethau sydd ar gael yn y gymuned.

"Un o brif dargedau'r Gwasanaeth Atal Codymau yw gostwng nifer y codymau y mae pob yn eu dioddef ac o ganlyniad lleihau nifer yr anafiadau, galwadau i'r gwasanaeth ambiwlans, derbyniadau i'r ysbyty, triniaethau a'r holl gostau sydd ynghlwm â chodymau y gallwn ei fuddsoddi mewn gwahanol feysydd yn ymwneud â thriniaeth a gofal."

 

Mae'r Teclyn Asesu Risg rhag Codwm yn ffordd o adnabod aelodau'r cyhoedd sydd wedi cael codwm neu sydd mewn perygl o gael codwm. Ar ôl ateb pump o gwestiynau caeedig, mae pobl yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth am asesiad llawn i leihau neu atal codwm ac fe all hyn gynnwys atgyfeiriad pellach i wasanaethau megis: ffisiotherapi, gwersi ymarfer corff, newidiadau i'r cartref, atgyfeiriad i wasanaeth trydydd sector neu atgyfeiriad i'r Meddyg Teulu am arolwg meddygol.

 

Mae'r hyfforddiant  i alluogi staff i ddefnyddio'r teclyn asesu wedi ei gyflwyno i nifer o asiantaethau megis gwasanaethau cymdeithasol, Ambiwlans Awyr Cymru a'r Groes Goch, a bellach Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru yn cael eu hyfforddi maes o law.

 

Fe ychwanegodd Stuart Millington: "Sir Ddinbych fydd y sir gyntaf lle bydd ein staff yn defnyddio'r Teclyn Asesu Risg rhag Codwm  yn y modd hwn - ac rydym yn gobeithio ehangu'r cynllun i ardaloedd eraill os bydd y canlyniadau yn ffafriol."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Archwiliadau Diogelwch yn y Cartref am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i roi cyngor ar gadw'n ddiogel.

 

I gofrestru am Archwiliad Diogelwch yn y Cartref galwch ein rhif ffôn dwyieithog unrhyw adeg o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

I gysylltu gyda'r Pwynt Cyswllt Unigol, galwch 0300 456 1000 neu anfonwch e-bost i: spoa@denbighshire.gov.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen