Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch casglu sbwriel

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o Losgi Bwriadol 18fed - 22ain Mai 2015, ac y mae wedi trefnu Ymgyrch Casglu Sbwriel ar draws y rhanbarth i amlygu pwysigrwydd tanau sbwriel bwriadol.

Mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn falch o gael gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc (YFA), Heddlu Gogledd Cymru a Cadwch Gymru'n daclus wrth iddynt baratoi i lanhau strydoedd y Gogledd i leihau'r perygl o danau sbwriel.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Dyma brosiect Cymru gyfan a bydd staff o'r gwasanaethau hyn yn  hybu peryglon cynnau tanau yn fwriadol.

"Drwy gydol yr wythnos bydd aelodau'r YFA, menter ieuenctid y Gwasanaeth Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chymdeithas Hyfforddiant Ieuenctid y Gwasanaeth Tân, yn casglu sbwriel mewn lleoliadau ar draws y Gogledd ynghyd â'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Heddlu Gogledd Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus.  Y pwyslais fydd hybu a dwyn sylw'r cyhoedd i'r drosedd o gynnau tanau yn fwriadol a rhoi adnoddau i gymunedau i leihau achosion o losgi bwriadol."

Meddai Gruff Jones, Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru: "Dyma gyfle gwych i wahanol asiantaethau ddod at ei gilydd i gyrraedd un nod cyffredin, sef gwneud ein cymunedau yn llefydd glanach, mwy diogel i fyw ynddynt.

"Yn anffodus, mae yna rai sydd yn dangos diffyg parch tuag at yr amgylchedd, ac yn ei ddifetha ar gyfer y gweddill ohonom.  Mae digwyddiadau fel hyn yn wych oherwydd maent yn annog y genhedlaeth ifanc i fynd i'r afael â'r materion hyn ynghyd â Cadwch Gymru'n Daclus, y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a Heddlu Gogledd Cymru."

Fe ychwanegodd Kevin: "Mae Cymru'n adnabyddus am ei golygfeydd godidog, ond dro ar ôl tro mae diffoddwyr tân yn cael eu galw i danau bwriadol sydd wedi cael eu cynnau gan bobl ifanc.

"Mae cynnau tanau sbwriel yn enghraifft o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae'n drosedd. Maent hefyd yn cael effaith ar fywydau pobl yn y gymuned.  Fe all cynnau biniau olwyn ar dân effeithio ar iechyd y rhai sy'n gyfrifol, yn ogystal â phobl sydd yn byw'n agos i'r tanau hyn.

"Mae'r rhan fwyaf o finiau olwynion wedi eu gwneud o bolythen trwchus sydd yn rhyddhau mwg gwenwynig pan cânt eu llogi.  Drwy anadlu'r mwg yma fe allwch amddifadu'r ymennydd o ocsigen a gallwch hefyd anadlu sylweddau cardiogenig, a all achosi canser.

"Fe all y tanau hyn ledaernu a mynd allan o reolaeth yn gyflym iawn gan arwain at ganlyniadau trychinebus - mae pobl ifanc sydd yn cynnau tanau fel hyn yn peryglu cymaint o fywydau a gobeithiaf y bydd yr ymgyrch casglu sbwriel yn annog pobl ifanc i feddwl ddwywaith cyn gweithredu.

"Drwy gydol y flwyddyn, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi llwyddo i ostwng nifer yr achosion o danau gwastraff bwriadol, sef lleihad o 277 rhwng 1 Ebrill 2012 a Mawrth 2013, i 228 ar gyfer yr un cyfnod yn 2013/2014, a 216 ar gyfer 2014/15. Mae hyn o ganlyniad i'n gwaith ar y cyd gyda nifer o asiantaethau i gefnogi gostyngiad mewn tanau bwriadol.

"Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddinistriol iawn;  mae'n anghyfrifol ac maen'n cael effaith negatif ar bobl sydd yn byw, gweithio ac ymwled â Gogledd Cymru.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub gogledd Cymru yn cymryd achosion o losgi bwriadol o ddifri ac mae am dawelu meddwl trigolion ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddod o hyd o ddrwgweithredwyr a sicrhau eu bod yn cael eu herlyn.  Mae aelodau YFA Amlwch, Biwmares, y Waun, Conwy, Caergybi, Llanfairfechan, Prestatyn, a Phwllheli yn cefnogi'r ymgyrch yn lleol drwy gydol yr wythnos  byddant yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth chi."

Am gyngor ar sut i gadw'ch hun a'ch busnes yn ddiogel thag tanau bwriadol ewch i wefan ddwyieithog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk .

Cewch ddilyn yr ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol i leihau tanau bwriadol drwy ddilyn #heplwchiataltanaubwriadol neu drwy fynd i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk a www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk

Os ies gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffoniwch 101.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim. Fel rhan o'r archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein rhif rhadffôn dwyieithog sydd ar agor 24 awr o'r dydd 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen