Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Galw uwchgynhadledd i fynd i'r afael â thanau glaswellt

Postiwyd
Cafodd y cynlluniau i fynd i'r afael â thanau glaswellt bwriadol eu hamlinellu heddiw yn ystod uwchgynhadledd o'r rhai hynny sydd am rwystro'r difrod a ddigwyddodd yn ddiweddar rhag digwydd eto.
Dydd Mercher 29 Ebrill 2015

Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Gweinidog y Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis a'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant yn cyfarfod cynrychiolwyr Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdodau Lleol perthnasol a'r Swyddfa Dywydd i drafod y cynnydd diweddar mewn achosion o danau.  

Meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Roedd uchwgynhadledd heddiw yn gam pwysig i barhau y cydweithio sydd ei angen i leihau'r ymddygiad peryglus, dinistirol a throseddol hwn.  

“Er bod nifer y tanau glaswellt bwriadol yn gostwng yn yr hirdymor, ers dechrau mis Ebrill, rydym wedi gweld nifer sylweddol ledled Cymru, yn enwedig yn Ne Cymru.    

“Rwy'n cymeradwyo'r Gwasanaethau Tân ac Achub, a'r ymladdwyr tân unigol, am eu hymateb i'r achosion hyn, ac yn croesawu'r ymateb cadarn gan Heddlu De Cymru, ond yn cydnabod fod gan Lywodraeth Cymru ran pwysig i'w chwarae hefyd.  

“Heddiw, amlinellwyd rhaglen o weithredu wedi'i gydlynu ar draws y Llywodraeth, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu, ysgolion, Awdurdodau Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Lluniwyd rhaglen weithredu glir wedi'i chydlynu ar gyfer y tymor byr, canolig a hirdymor.  

Meddai'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews:

“Mae'r cymunedau eu hunain am fod yn rhan o'r frwydyr yn erbyn y troseddau hyn.  Eisoes, mae grwpiau cymunedol wedi dod ymlaen i gefnogi'r Gwasanaeth Tân - grwpiau fel y Bicycle Doctor ym Mhorth, Wildfire FOA yn RCT, a'r Timau Rhwystro Tanau Glaswellt a Thanau Mynydd yng Nghaerffili, RCT a mannau eraill.  Rwy'n eu cefnogi gant y cant, ac rwy'n gwybod bod y Gwasanaeth Tân yn eu cefnogi hefyd.  Rwyf am ddefnyddio eu hynni a'u brwdfrydedd i atal y bobl hyn sy'n cynnau tanau ar ein bryniau.  

“Mae uwchgynhadledd heddiw wedi codi materion o bwys.  Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y maes hwn i sefydlu pa newidiadau sydd eu hangen ym maes addysg, yn cadw golwg ar bethau yn well, yn rhoi cosbau llymach ac yn rheoli tir yn well i dorri'r cylch diwylliannol a thymhorol hwn."

 

Nodyn i Olygyddion:

 

Dyfyniadau i gefnogi'r uwch-gynhadledd

Meddai Peter Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru: "Rydym yn croesawu’r uwchgynhadledd ac sydd yn atgyfnerthu cyfle i weithio gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r broblem, Mae’n drosedd sydd yn effeithio ar bawb yn y gymuned ac sydd mewn perygl o achosi niwed sylweddol o gartrefi pobl ac unrhyw un sydd yn byw yn y cyffiniau. 

"Mae plant ifanc iawn yn chwalu eu bywydau drwy gymryd rhan yn y ffwlbri o gynnau tanau. Mae’n drosedd ddifrifol a ni fyddwn yn oedi rhag cymryd camau llym yn erbyn pobl sydd yn ymddwyn yn y fath fodd gan ddiystyru bywyd ac eiddo.   

"Bob dydd mae diffoddwyr tân a swyddogion yr heddlu yn peryglu eu bywydau  er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl ac eiddo  yn ddiogel. Mae pob munud y maen nhw’n ei dreulio’n taclo tanau glaswellt bwriadol yn eu hatal rhag ymateb yr un mor gyflym i nifer o argyfyngau eraill y maen tyn cael eu galw atynt o ddydd i ddydd, ac mae hyn y rhoi bywydau yn y fantol."

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Alun Michael: "Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd sydd wedi dychryn y cymunedau y mae wedi effeithio arnynt. Rwyf yn edmygu’r modd y mae’r Gwasanaeth Tân a Heddlu Gogledd Cymru wedi cydweithio i ymateb i’r broblem eleni.  Mae’n hanfodol ein bod ni gyd – addysg, awdurdodau lleol, heddlu a thân – yn cydweithio i wneid yn siŵr bod pobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol yn ymwybodol o’r canlyniadau a chefnogi’n cymunedau i ddelio gyda’r perygl.”

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,

“Fel Gwasanaeth, rydym yn adnabod yr effaith y caiff tanau glaswellt bwriadol ar gymunedau De Cymru ac rydym yn parhau i gyfarwyddo'n hadnoddau i atal y rhain rhag digwydd yn y lle cyntaf. Ni ellir gweld y math hwn o ddigwyddiad rhagor fel “hwyl heb risg” ac mae'r Gwasanaeth yn ymroddedig i weithio'n gyda'n cymunedau i newid y diwylliant hwn drwy gysylltu â chalonnau a meddyliau.

“Ymbiliwn ar ein cymunedau i feddwl am ganlyniadau cynnau tân bwriadol a'r effaith ar gefn gwlad a bywyd gwyllt, yn ogystal â'r peryglon i'n Hymladdwyr Tân a'u diogelwch wrth daclo'r digwyddiadau hyn. Mae tanau glaswellt bwriadol yn weithred o losgi bwriadol (Maleisus), sy'n drosedd ddifrifol ac rydym yn cydweithio'n agos â'r Ddau Wasanaeth Heddlu i ddod â'r sawl sy'n gyfrifol o flaen eu gwell.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen