Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon canhwyllau yn dilyn tân ym Mhrestatyn

Postiwyd

Mae Swyddog Diogelwch Tân yn apelio ar i deuluoedd fod yn fwy gofalus gyda chanhwyllau yn dilyn tân ym Mhrestatyn yn ystod oriau mân y bore yma (24 Ebrill) lle cafodd dau o bobl eu cludo i'r ysbyty oherwydd eu bod wedi anadlu mwg.

Cafodd criwiau o Brestatyn a'r Rhyl eu galw i'r fflat yn Victoria Avenue, Prestatyn am 04.03 o'r gloch y bore yma, Dydd Gwener 24ain Ebrill, ac fe ddefnyddiodd y criw bedair set o offer anadlu, dwy bibell dro a chamera delweddu thermol i ddelio gyda'r tân. Roedd y tân dan reolaeth erbyn 05.07 o'r gloch y bore yma.  

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Credir bod y tân wedi ei achosi gan ganhwyllau a oedd wedi cael eu gadael yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt; mae'r digwyddiad y bore yma yn dangos pa mor beryglus yw canhwyllau.

"Cafodd dau breswylydd eu cludo i'r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg. Pob blwyddyn mae nifer o blant ac oedolion yn cael eu hanafu oherwydd bod canhwyllau wedi cael eu tanio a'u gadael i losgi heb neb i gadw llygaid arnynt.

"Mae canhwyllau sydd yn cael eu gadael yn llosgi yn hynod beryglus - fe all fflam fechan o'r gannwyll ledaenu i fod yn dân difrifol yn gyflym iawn.  Yn ffodus iawn llwyddodd y preswylwyr i fynd allan o'r fflat cyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd, ond cafwyd difrod tân difrifol iawn yn y llofft, ynghyd â dirfod mwg a gwres yng ngweddill yr eiddo.

"Mae canhwyllau yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd, i oleuo, gwresogi neu addurno  ystafelloedd ond mae'n bwysig bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon sydd ynghlwm â hwy.  

"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau bach batri, sydd ar gael i'w prynu'n rhad, yn hytrach na defnyddio canhwyllau. Mae canhwyllau batri yn gallu creu'r un math o awyrgylch â chanhwyllau go iawn ond maent fwy diogel o lawer."

Mae'n hynod bwysig bod trigolion yn dilyn y cyngor isod wrth ddefnyddio canhwyllau:

.        Peidiwch byth â gadael canhwyllau yn llosgi a chofiwch eu diffodd cyn i chi fynd i'r gwely  

.        Gwnewch yn siwr bod canhwyllau wedi eu gosod yn syth a chadarn fel na allant gael eu taro drosodd -  mae canhwyllau persawr bob amser yn troi'n hylif felly llosgwch hwy mewn daliwr canhwyllau addas sydd wedi e i wneud o wydr neu fetel a all wrthsefyll gwres  ac nad oes modd i'r hylif ddiferu ohono.

.        Gosodwch ganhwyllau ar arwyneb a all wrthsefyll gwres bob amser

.        Cadwch ganhwyllau ymhell o ddrafftiau, llenni a gwers neu olau haul uniongyrchol

.        Gadewch o leiaf 10cm rhwng pob cannwyll a pheidiwch byth â'u gosod o dan silffoedd neu arwynebeddau eraill

.        Diffoddwch ganhwyllau cyn iddynt losgi'r daliwr

.        Llosgwch ganhwyllau ymhell o gyrraedd plant

.        Diffoddwch ganhwyllau cyn i chi eu symud  

.        Gosodwch larwm mwg yn eich cartref ac ystyriwch osod larymau mwg ychwanegol mewn ystafelloedd lle mae canhwyllau yn cael eu llosgi ynddynt yn rheolaidd

.        Peidiwch â gwyro dros ganhwyllau  

.        Peidiwch byth â defnyddio canhwyllau sydd dim ond i fod i gael eu defnyddio y  tu allan yn y ty

.        Peidiwch â chwarae gyda chanhwyllau drwy roi pethau yn y cwyr poeth

Mae staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ardal Victoria Avenue heddiw i gynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref; os hoffech chi gael archwiliad rhad ac am ddim a chyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref, galwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 24 awr o'r dydd yn rhad ac am ddim neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365 gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen