Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân a Heddlu yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael a thanau bwriadol

Postiwyd

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â thanau bwriadol yn enwedig yn ardal Blaenau Ffestiniog.

 

Mae swyddogion yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn erfyn ar i bobl feddwl am ganlyniadau cynnau tanau gwair yn dilyn llu o ddigwyddiadau yn ardal Blaenau Ffestiniog dros yr wythnosau diwethaf sydd wedi bod yn draul ar eu hadnoddau. Y mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd difrifol iawn ac fe allech gael eich anafu, neu orfod mynd o flaen eich gwell a chael cofnod troseddol.

 

Ers 1af Ebrill 2015 mae criwiau tân wedi cael eu galw i dros 62 o danau gwair neu eithin bwriadol  yng Ngogledd Cymru. Digwyddodd traean o'r rhai yn ardal Blaenau Ffestiniog a chafwyd y diwethaf y tu ôl i Ysgol y Moelwyn am 8.55pm. Fe gymrodd hi 11 awr i ddiffoddwyr tân ddod ag un tân a oedd yn llosgi ar y llechweddau ym Mlaenau Ffestiniog dan reolaeth ac roedd pedwar injan dân yn bresennol dros nos.

 

Meddai Guy Blackwell, Prif Arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru: "Neithiwr cafodd pump o fechgyn ifanc eu harestio fel rhan o'n hymchwiliad ac maent bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth. Hyd yn hyn, ac yn ffodus iawn, nid oes unrhyw un wedi cael eu hanafu ond rydym yn benderfynol o atal hyn rhag dod yn broblem arferol a'n bod yn addysgu pobl ifanc am beryglon tân cyn i rywun cael ei anafu neu waeth. Mae gennym fwy o swyddogion yn patrolio'r ardal ac rydym yn gofyn i'r cyhoedd roi gwybod i ni ar unwaith os ydynt yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus.

 

"Y neges yr hoffwn i ei rhannu yw bod tanau yn beryglus a gallant ddifetha bywydau yn ogystal ag eiddo, felly peidiwch â chael dim i wneud â hwy.  Drwy'n partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ar y cyd rydym yn apelio ar unrhyw un sydd yn gwybod pwy sydd yn gyfrifol am y tanau hyn i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosib cyn i rywun gael ei anafau.  Mae digwyddiadau fel hyn yn draul ar adnoddau'r Gwasanaethau Brys pan fo galw mawr am eu gwasanaeth yn ystod digwyddiadau eraill."

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol wedi rhoi nifer o fentrau ar waith yn ardal Blaenau Ffestiniog i geisio addysgu'r bobl ifanc ynglyn â chanlyniadau cynnau tanau yn fwriadol.

 

"Rydym wedi dosbarthu taflenni, ymweld ag ysgolion a chlybiau ieuenctid lleol a gosod posteri mewn mannau sydd wedi dioddef tanau bwriadol i geisio amlygu'r broblem yn y gymuned.

 

"Rwyf yn apelio ar rieni neu warcheidwaid i gadw llygaid ar eu plant a phwysleisio'r neges bwysig bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

 

"Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw am help ac efallai na fyddwn yn gallu ymateb mor gyflyn neu cyn rhwydded ag arfer oherwydd ein bod yn gorfod delio gyda thân bwriadol."

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:" Mae'r tywydd sych diweddar wedi cynyddu'r perygl o danau gwledig ac roedd yn siomedig gweld bod cymaint o'r tanau hyn wedi eu cynnau yn fwriadol.

 

"Yn ystod tywydd braf mae glaswellt, eithin a grug yn sychu ac fe all tanau ddatblygu yn gyflym iawn o ganlyniad, yn enwedig pan fydd gwyntoedd cryfion. Yn aml iawn fe all y tanau hyn fynd allan o reolaeth a lledaenu i eiddo cyfagos neu fforestydd. Yn aml iawn mae'n rhaid i'r gwasanaeth tân ac achub eu diffodd.

 

"Mae tanau fel hyn yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac mae diffoddwyr tân yn treulio oriau maith yn ceisio dod â hwy dan reolaeth sydd o ganlyniad yn golygu oedi wrth ymateb i ddigwyddiadau sydd yn peryglu bywydau.

 

"Yn aml iawn mae'r tanau hyn yn cael eu cynnau mewn mannau sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae chyflenwadau dwr yn brin.

"Y mae bywyd gwyllt, da byw a'r amgylchedd hefyd yn dioddef, ynghyd â chost sylweddol i'r pwrs cyhoeddus o ganlyniad i ddelio gyda'r tanau hyn.

Cewch ddilyn yr ymgyrch i leihau achosion o losgi bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #helpwchiataltanaubwriadol neu fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.north-wales.police.uk

Os oes gennych chi wybodaeth ynglyn â throseddau o'r fath fe'ch cynghorwn i ffonio  Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffonio 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen