Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i adrodd am bobl sy’n cynnau tanau yn fwriadol yn dilyn llu o danau yng Ngwersyllt

Postiwyd

 

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Y Gogledd yn apelio ar drigolion i’w helpu i fynd i’r afael â thanau bwriadol yn dilyn llu o danau yn ardal Gwersyllt, Wrecsam dros y dyddiau diwethaf.

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i bum digwyddiad mewn tridiau - yn gyntaf, cafodd criwiau eu galw i ddau dân bwriadol, a oedd yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg, mewn ysgubor wag ar Dodds Lane, Gwersyllt am 19.25 o’r gloch neithiwr Dydd Gwener 17eg Ebrill, ac eto nos Sul 18fed Ebrill am 20.14 o’r gloch. Cawsant hefyd eu galw i dân mewn bin olwynion ar Ffordd Alyn am 23.08 o’r gloch yr un noson.

 

Am 16.33 o’r gloch Dydd Sul 19eg Ebrill, cafodd criwiau eu galw i Delamere Avenue, Gwersyllt i ddelio gyda thân bwriadol a oedd wedi lledaenu ar draws 15-20 metr o laswellt a choed, a dydd Llun 20fed Ebrill am 20.59 o’r gloch cawsant eu galw i ddelio gyda thân yn ymwneud â 1 metr sgwâr o wastraff domestig ym Mryn Coed

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: “Mae’r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl annerbyniol ac rydym yn apelio ar y cyhoedd i adrodd am bobl sydd yn cynnau’r math yma o danau.

 

“Yn ffodus iawn ni chafodd unrhyw un ei anafu. Ond mae’r posibilrwydd y  gallai’r drwgweithredwyr neu eraill yn y cyffiniau gael eu hanafu’n ddifrifol yn uchel iawn yn y math yma o sefyllfaoedd.

 

“Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau maith yn ceisio  dod â’r tanau hyn dan reolaeth, sydd wedyn yn golygu oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i apelio ar rieni i gadw llygaid ar eu plant a phwysleisio’r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau. 

 

“Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw am ein cymorth ac efallai na fyddwn yn gallu dod atoch cyn gyflymed neu cyn rhwydded  ag yr hoffem oherwydd ein bod yn gorfod delio gyda thân bwriadol.”

 

Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael ag achosion o losgi bwriadol. Rydym wedi bod yn dosbarthu taflenni yn apelio am wybodaeth gan drigolion lleol, mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi bod yn mynd o dŷ i dŷ yn gwneud ymholiadau, ac mae posteri Atal Llosgi Bwriadol sydd yn hysbysebu rhif Crimestoppers hefyd wedi eu gosod yn yr ardal.

 

“Hoffwn apelio ar unrhyw un sydd gan wybodaeth am droseddau o’r fath i roi gwybod Heddlu Gogledd Cymru."

Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol #helpwchiataltanaubwriadol ac ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o’r fath fe’ch cynghorwn i alw Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffoniwch 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen