Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch yn dilyn tanau trydanol yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn nifer o danau ar draws y Gogledd dros y penwythnos.

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon tanau trydanol yn dilyn nifer o danau ar draws y Gogledd dros y penwythnos.

Mae criwiau o bob cwr o'r rhanbarth wedi bod yn brysur dros y penwythnos (17-20 Ebrill) yn taclo tanau a achoswyd gan namau trydanol yn ôl pob tebyg.

Digwyddodd tri o'r tanau hyn mewn adeiladau masnachol, ac fe'u hachoswyd oherwydd bod ceblau trydanol wedi gwreichioni neu oherwydd nam ar y ceblau.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae gwreichioni neu arcio  yn digwydd pan fydd cysylltiadau llac neu gyrydedig yn dod i gysylltiad gyda'i gilydd.

"O ganlyniad ceir gwers, sydd yn difrodi ynysiad y wifren ac yn achosi tân trydanol. Yn wahanol i nam ar y gylched fer, sef gwifren boeth sydd yn dod i gysylltiad gyda gwifren daear neu niwtral, ni fydd gwreichioni bob amser yn achosi i'r torrwr cylched dripio.

"Yn ffodus iawn chafodd neb mo'i anafu yn y tanau hyn, ac oherwydd ymdrechion ein criwiau tân ni achosodd y tanau lawer o ddifrod."

Dros y penwythnos cafodd criwiau tân eu galw i bum tân yn y cartref a oedd wedi eu hachosi gan nam trydanol.

Meddai Stuart: "Mae tanau yn y cartref yn gallu bod yn drychinebus, yn anffodus fe achosodd dau o'r tanau hyn ddifrod sylweddol. Yn ffodus iawn ni chafod unrhyw bobl eu hanafu ond bu farw ci un teulu o ganlyniad i ddifrod mwg a thân.

"Yn drist iawn fe allai pob un o'r tanau hyn fod wedi eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf ac mae'n bwysig bod pawb yn gofalu am eu hoffer trydanol a'u defnyddio'n gywir. Dyma air i gall:

-Peidiwch â gorlwytho socedi

-Archwiliwch wifrau yn rheoliad rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio

-Tynnwch blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio

-Cadwch gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

-Ystyriwch brynu Dyfais Cerrynt Gweddilliol, sydd yn amddiffyn rhag sioc drydanol ac yn lleihau'r perygl o dân trydanol.

"Dylai cymryd y rhagofalon uchod leihau'r perygl o dân trydanol -  ond dylai trigolion hefyd sicrhau bod ganddynt larwm mwg sy'n gweithio er mwyn rhoi rhybudd cynnar bod tân.

"Rydym yn mynychu rhyw 470 o danau damweiniol mewn cartrefi bob blwyddyn, ac mae trydan neu eitemau trydanol yn gyfrifol am fwy na 300 o'r rhain.

"Fis Hydref diwethaf, roedd tân yn Llanrwst a aeth â bywydau dau ddyn 19 a 39 oed yn fwyaf tebygol o fod wedi cychwyn mewn peiriant sychu dillad. Mae'r mater yn destun cwest Crwner.

"Pam nad edrychwch ar y gyfrifiannell  arbennig ar ein gwefan a'n tudalen Facebook - www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook.com/Northwalesfireservice  -  mae'n dweud wrthych os ydych chi'n gorlwytho socedi ac yn eich helpu i aros yn ddiogel yn drydanol."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhoi cyngor diogelwch tân, eich helpu chi i lunio cynllun dianc os oes tân a gosod larymau newydd - i gyd yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ffoniwch y llinell 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, e-bost dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen