Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Chwyldro mewn addysg i yrwyr ifanc

Postiwyd

Fe gymrodd pobl ifanc cyn ddigarterf ran yn y cwrs Chwyldro'r wythnos diwethaf sydd wedi anelu at godi ymwybyddiaeth diogelwch ar y ffyrdd ymhlith oedolion ifanc.

Mae'r cwrs yn rhan o fenter ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ac mae'n ddull rhagweithiol o addysgu pobl ifanc rhwng 16-25 oed.

Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân y Waun ar gyfer pobl ifanc o Gynlluniau Llety Cymorth a gefnogir gan Gymdeithas Dai Clwyd Alyn

Mae'r cwrs rhygweithiol yn ymdrin ag agweddau megis canlyniadau gwrthdrawiadau traffig marwol neu ddifrifol ar y gyrrwr, y teithwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn ogystal â'r effeithiau seicolegol, cosbol ac ariannol a all ddeillio o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd.

Roedd y gweithdy yn cynnwys chwarae rôl gydag actor ac enghraifft o wrthdrawiad traffig realistig a'r modd yr eir ati i ryddhau pobl o gerbydau.  Roedd yn rhaid i'r myfyrwyr gwblhau prosiect fel tîm yn ystod y cwrs dau ddiwrnod yn ogystal.

Cafwyd cyfraniadau gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, Undeb yr Anafusion, Swyddogion Traffig Cymru a staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrth greu'r cwrs ac y mae'r gwersi yn seiliedig ar bum prif achos gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd yng Nghymru, sef y '5 Angheuol'  - goryrru, alcohol a chyffuriau, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a gyrru peryglus ac anghymdeithasol.

Meddai Amy Croxton, Cydlynydd y Prosiect Chwyldro: "Rwyf yn falch o ddweud bod y gweithdy hwn wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer y prosiect addysgiadol hwn.  

"Dro ar ôl tro mae'r Gwasanaethau Brys yn cael eu galw i ddigwyddiadau trasig yn ymwneud â phobl ifanc bob blwyddyn - gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd yw prif achos marwolaethau ymhlith pobl ifanc, ac mae'r cwrs arloesol hwn yn llwyddo i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ffyrdd ymhlith pobl ifanc."

"Nod y cwrs yw ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ffordd ragweithiol i'w helpu i sylweddol canlyniadau'r modd y maent yn ymddwyn y tu ôl i'r llyw, ac rwyf yn teimlo bod y bobl ifanc wedi elwa o'r prosiect Chwyldro ac y bydd o fantais iddynt yn y dyfodol."

Meddai Ade Harvey, Cydlynydd Sgiliau Bywyd Cymdeithas Dai Clwyd Alyn: "Mae'r cwrs 'Chwyldro' i bobl ifanc yn rhoi profiad pwerus i drigolion. Rydym ni wedi cael adborth galonogol iawn gan y rhai sydd wedi mynychu a ddywedodd bod y cwrs wedi cael argraff barhaol arnynt.

"Roedd y cwrs yn cynnwys clipiau fideo o wrthdrawiadau traffig gwirioneddol a gwrthdrawiadau ffug ac fe gafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i fod yn rhan o senario achub wedi ei llwyfannu a hefyd i chwarae rôl Swyddogion Cyswllt y Heddlu wrth orfod dweud wrth actores bod ei merch a'i wyres wedi eu lladd mewn gwrthdrawiad."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen