Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth ar Ddiwrnod Dim Ysmygu

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno gyda phartneriaid o Dîm Iechyd Parc Caia yn ystod digwyddiad ym Mharc Caia Ddydd Mercher 11eg Mawrth.

Mae hi'n Ddiwrnod Dim Ysmygu dydd Mercher; diwrnod iechyd cenedlaethol yn y DU sydd yn annog ysmygwyr i roi'r gorau iddi,  a bydd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym meddygfa  Dr Rao Ddydd Mercher rhwng 2pm-4pm i godi ymwybyddiaeth ymysg ysmygwyr o beryglon posib ysmygu yn y cartref.

Bydd staff hefyd yn bresennol mewn digwyddiad yng Ngholeg Cambria- Glannau Dyfrdwy Ddydd Mercher ynghyd â'r bws addysgiadol i roi cyngor i'r myfyrwyr.  

Dylai ysmygwyr sydd methu â rhoi'r gorau iddi fod yn ymwybodol o'r peryglon tân y maent yn eu hwynebu, rhoi'r gorau i arferion peryglus, gosod larymau mwg ar bob llawr yn eu cartref a'u profi'n wythnosol.  Os oes gennych larwm mwg gweithredol rydych ddwy waith yn fwy tebygol o oroesi tân damweiniol yn y cartref.

"Heb larwm mwg i roi rhybudd cynnar i chi bydd gennych lai o amser i fynd allan o'ch cartref os bydd tân," meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint.

"Os byddwch yn anadlu'r mwg gwenwynig ddwy neu dair gwaith fe allech gael eich taro'n anymwybodol.  

"Mae'r difrod a achosir gan danau yn y cartref, yn cynnwys y rheiny a achosir gan ddeunyddiau ysmygu, yn drychinebus.  Mae tanau o'r math yma yn gallu mudlosgi am oriau ac oni bai eu bod yn cael eu canfod fe allant ledaenu'n gyflym a datblygu i fod yn danau difrifol iawn yn ddirybudd.

"Drwy fanteisio ar y cyfle i roi'r gorau iddi unwaith ac am byth ar 'Ddiwrnod Dim Ysmygu', byddwch yn gwella'ch iechyd ac arbed arian; a byddwch hefyd yn lleihau'r perygl o ddioddef tân yn eich cartref.  

"Y ffordd orau i wneud yn siwr eich bod yn lleihau'r peryglon yw rhoi'r gorau iddi - fodd bynnag, rydym yn deall bod hyn yn mynd i fod yn anodd iawn i rai ysmygwyr ac felly rydym yn eu cynghori i gymryd pwyll pan fyddant yn ysmygu yn y cartref ac i ddifodd eu sigaréts yn llwyr ar ôl gorffen."


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cawsom ein galw i 51 o danau a oedd wedi eu hachosi gan ddeunyddiau ysmygu; i'r rhai ohonoch chi sydd ddim eto'n barod i roi'r gorau iddi ar ddiwrnod dim ysmygu, dyma air i gall ar atal tanau yn y cartref:

-      Diffoddwch hi, yn llwyr! Gwnewch yn siwr bod eich sigarét wedi ei diffodd yn gyfan gwbl
- Gosodwch larymau mwg a phrofwch hwy yn wythnosol. Fe all larwm mwg gweithredol roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999
- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely. Cymrwch bwyll os ydych wedi blino. Fe allech bendwmpian tra bod eich sigarét yn dal i losgi  a roi dodrefn ar dân
- Peidiwch ag ysmygu os ydych wedi bod yn cymryd  cyffuriau  neu'n yfed alcohol. Ni fyddwch yn gallu canolbwyntio'n iawn ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol, ac fe all hyn ynghyd â sigaréts fod yn gyfuniad peryglus iawn.
- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu bibau heb neb i gadw llygaid arnynt - fe allant syrthio tra'u bod llosgi.
- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na all gael ei droi drosodd yn hawdd iawn ac sydd wedi ei wneud o ddefnydd anhylosg.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim. Fel rhan o'r archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein rhif rhadffôn 24 awr o'r dydd, sef 0800 169 1234,anfonwch neges e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen