Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cael hyd i gorff ar ôl tân mewn gweithdy yn y Rhyl

Postiwyd

 

Mynychodd criwiau dân mewn gweithdy ar Vale Road, y Rhyl am 16.57 o’r gloch heddiw, dydd Mercher Rhagfyr 23.

 

I ddechrau aeth dau beiriant tân o’r Rhyl i’r digwyddiad. Roedd diffoddwyr tân yn wynebu tân wedi datblygu’n dda, ac fe anfonwyd peiriannau tân o Abergele, Bae Colwyn a Threffynnon, ynghyd â'r Peiriant ag Ysgol ac Esgynlawr o’r Rhyl, i’r digwyddiad.

 

Yn anffodus, cafwyd hyd i gorff yn yr eiddo.

 

Symudwyd trigolion yn yr ardal leol.

 

Mae archwiliad llawn i achos y tân ar y gweill.

 

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen