Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gareth Wyn Jones yn rhoi ei gefnogaeth i godi proffil problem tanau gwair

Postiwyd

Mae’r ffermwr o Ogledd Cymru a’r bersonoliaeth adnabyddus ar y teledu, Gareth Wyn Jones yn rhoi ei gefnogaeth i wasanaethau tân ac achub Cymru yr hydref hwn i helpu hyrwyddo a chodi proffil pwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt.

 

Mae Gareth, sy’n ffermio yn Llanfairfechan yng Nghonwy, yn seren dau fideo newydd – y cyntaf wedi ei anelu at annog tirfeddianwyr i gysylltu â’r gwasanaethau tân ac achub cyn gwneud unrhyw losgi, a’r ail i helpu rhoi stop ar ac adrodd am danau bwriadol a achoswyd gan bobl anghyfrifol.

 

Mae’r ddau fideo newydd ‘Call before you burn’ a ‘Help stop deliberate fires’ ar gael i’w gweld ar YouTube ac fe’u lansiwyd heddiw (Dydd Iau 8fed Hydref) ym marchnad ffermwyr Rhuthun yng Ngogledd Cymru.

 

Mae negeseuon Gareth yn syml – ‘Peidiwch â pheryglu bywydau pobl eraill. Byddwch yn gyfrifol!’ pan ddaw’n fater o losgi dan reolaeth.

 

A ‘Nid math o ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn unig yw gosod tanau bwriadol, mae’n weithred droseddol hefyd’ – gan annog adrodd am danau anghyfrifol i Crimestoppers.

 

Meddai Gareth: “Roeddwn yn falch iawn o hyrwyddo’r negeseuon hyn i helpu amddiffyn y cyhoedd, eiddo a’r amgylchedd yn ehangach.

 

“Fel ffermwyr, ein cyfrifoldeb ni yw amddiffyn bywyd gwyllt – os ydym yn llosgi ardaloedd nythu y tu allan i’r tymor llosgi rydym nid yn unig yn torri’r gyfraith, ond hefyd yn niweidio ecoleg ein tirweddau.

 

“Mae Cymru yn enwog am ei hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, ond rydym yn aml yn gweld y mannau hyn yn cael eu dinistrio oherwydd tanau bwriadol. Gall tân ymledu’n gyflym iawn ac ni ellir dweud i ba gyfeiriad y bydd yn mynd.”

 

Ledled Gogledd Cymru, bydd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â marchnadoedd da byw dros y misoedd i ddod yn cynghori tirfeddianwyr ar ymgymryd â llosgi dan reolaeth a rhoi rhybudd ymlaen llaw i’r gwasanaethau tân ac achub pan fyddant yn llosgi. Mae ffermwyr wedi ymateb yn gadarnhaol i’r ymgyrch hon yn y blynyddoedd a aeth heibio.

 

Dan y Cod Llosgi Grug a Galaswellt caniateir llosgi dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth yn yr ucheldiroedd a rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth mewn mannau eraill.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Bob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi dan reolaeth, rydym yn cael ei galw i lawer o alwadau di-angen a llosgi sydd wedi ymledu, yn arwain at ddinistrio tir ac eiddo gwerthfawr ynghyd â mynd â’n hadnoddau y gellid eu defnyddio’n well mewn man arall.

 

“Rydym yn annog i dirfeddianwyr sy’n llosgi dan reolaeth i’n hysbysu ni yn gyntaf trwy ffonio ein hystafell reoli ar 01931 522006 i osgoi galwadau ffug a chriwiau tân yn cael eu hanfon allan yn ddi-angen.

 

"Rydym hefyd yn gofyn i’r tirfeddianwyr hyn fod yn gyfrifol wrth losgi dan reoaleth – gyda'r cyngor manwl sydd ar gael ar ein gwefan www.nwalesfireservice,org.uk a sut i osgoi risg heb ei angen.

 

“Yn anffodus, rydym hefyd yn aml yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol ar adegau penodol o’r flwyddyn, yn aml yn cael eu hachosi gan bobl ifanc. Felly mae Gareth yn ein helpu i bwysleisio bod gosod tanau yn drosedd a'n bod yn gweithio gyda’r heddlu i geisio atal digwyddiadau bwriadol. Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am weithgareddau o’r fath i’w adrodd i Crimestoppers neu ffonio 101.”

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen