Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel ar noson Galan Gaeaf

Postiwyd

Mae swyddog tân yn croesawu camau i wella diogelwch gwisgoedd ffansi i blant cyn Calan Gaeaf eleni

Yn ddiweddar bu i’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid ofyn am ymchwiliad genedlaethol i ddiogelwch gwisgoedd ffansi i blant gan swyddogion  Safonau Masnach. Cyn Calan Gaeaf bydd Swyddogion Safonau Masnach yn cynnal archwiliadau  ar hap mewn siopau sydd yn gwerthu gwisgoedd ffansi. Bydd y gwisgoedd yn cael eu hasesu i weld a ydynt yn cydymffurfio â safonau diogelwch drwy gyfres o brofion fflamadwyedd.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydw i’n falch o glywed bod Gweinidogion yn cymryd camau i sicrhau bod swyddogion Safonau Masnach yn archwilio gwisgoedd ffansi. Mae plant yn gwisgo gwisg ffansi yn aml, yn ystod Calan Gaeaf ac hefyd trwy gydol y flwyddyn gan wisgo fel arwyr neu gymeriadau ffilm i fynd i bartis neu chwarae yn y tŷ, ac felly mae damweiniau ofnadwy  yn fwy tebygol o ddigwydd. 

“Dylid cymryd pwyll wrth wisgo gwisg ffansi. Er bod rhieni yn ymwybodol o beryglon fflamau a gwisgoedd ffansi, mae’n bosib nad ydynt yn gwybod pa mor fflamadwy a pheryglus ydy rhai gwisgoedd. Dyma air i gall:

- Dewiswch ddillad tynn heb ddefnydd llac – cadwch blant ymhell o ganhwyllau, tanau agored, fflamau agored a ffynonellau tanio eraill -  Mae menig gwisg ffansi a menig arferol yn gallu bod yn fflamadwy felly cymrwch bwyll os ydy’ch plentyn yn gafael mewn ffyn gwreichion.” Dyma ddolen i gyhoeddiad y llywodraeth:  https://www.gov.uk/government/news/nationwide-investigation-launched-into-fire-safety-of-childrens-fancy-dress

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen