Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am sosbenni tsips ar ôl tân ym Mae Colwyn

Postiwyd

Mae swyddog tân wedi rhoi rhybudd am beryglon sosbenni tsips ar ôl tân mewn fflat ym Mae Colwyn lle cafodd tri o bobl, gan gynnwys plentyn tair oed, eu trin ar ôl anadlu mwg.

 

Galwyd diffoddwyr tân i Fae Colwyn a Llandudno i’r fflat llawr cyntaf ar Mostyn Road, Bae Colwyn, a defnyddio dwy bibell dŵr a phedwar set o offer anadlu i ddelio â’r tân, a achoswyd gan sosban tsips wedi ei gadael.

 

Cyfyngwyd difrod tân i’r cwcer, ond roedd difrod mwg i’r fflat cyfan.

 

Cafodd y deiliaid, 20 a 19 oed a’u merch dair oed, eu trin gan barafeddygon am effeithiau ysgafn anadlu mwg.

 

Seiniodd larymau mwg yn yr eiddo a gadawodd deiliaid y ddau fflat uwchben eu cartrefi hwythau.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych: “Mae gadael sobsan tsips am unrhyw amser yn medru cael canlyniadau trychinebus oherwydd gall yr olew ordwymo’n hawdd a thanio – os bydd y peth lleiaf yn mynd â’ch sylw gall arwain at dân mewn eiliadau.

 

“Mae tsips popty neu beiriannau ffrïo yn ddiogelach, ynghyd â iachach, ond os ydych yn dewis defnyddio sosban tsips, peidiwch â gadael y sosban heb gadw llygaid arni. Os yw’n mynd ar dân, peidiwch â thaflu dŵr arni. Ewch allan, arhoswch allan a ffonio 999. Peidiwch byth â cheisio delio â’r tân eich hun.

 

“Yn well fyth – taflwch eich hen sosban tsips a defnyddio peiriant ffrïo sy’n rheoli’r tymheredd.”

 

 “Dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i dân bach ddatblygu yn un difrifol sy’n bygwth bywydau. Os ydych yn cysgu ac mae tân yn dechrau, mae gennych broblem ddifrifol – gall anadlu dim ond ychydig o’r mwg achosi i chi fynd yn gwbl anymwybodol.”

 

Os ydych yn dewis ffrïo eich sglodion yn ddwfn, dilynwch yr awgrymiadau canlynol i helpu lleihau’r risg:

• Peidiwch â gorlenwi’r sosban gydag olew – byth dim mwy nag un rhan o dair yn llawn • Byddwch yn ofalus nad yw’n gordwymo – gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd • Defnyddiwch declyn ffrïo dwfn sy’n rheoli tymheredd, a fydd yn sicrhau nad yw’r olew yn mynd yn rhy boeth • Peidiwch byth â thaflu dŵr ar dân mewn sosban sglodion • Eisiau bwyd ar ôl bod yn y dafarn? Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol • Os oes tân, gwnewch yn siŵr bod gennych lwybr dianc • Peidiwch â chymryd risg trwy geisio diffodd y tân – ewch allan a ffonio 999 • Gosodwch larwm mwg a’i brofi’n rheolaidd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim, lle bydd aelod o’r Gwasanaeth yn ymweld â’ch cartref, yn rhoi cyngor diogelwch tân, eich helpu chi i lunio cynllun dianc os oes tân a gosod larymau newydd – i gyd yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ffoniwch y llinell ddwyieithog 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen