Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Simneiau

Postiwyd

 

Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Diogelwch Simneiau yw wythnos hon (8fed-14eg Medi) ac mae swyddogion tân yn annog trigolion i gadw cyngor diogelwch tân sylfaenol mewn cof cyn cynnau tân yr hydref hwn.

 

Gellir atal y rhan fwyaf o danau simnai - cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i 212 o danau simnai'r llynedd, sef llawer llai na'r 319 a fynychodd yn ystod y 12 mis blaenorol.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym yn falch bod pobl yn gwrando ar ein negeseuon, ac rydym am i chi ddal ati gyda'r gwaith da - i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel glanhewch eich  simdde yn rheolaidd cyn fisoedd oer y gaeaf pan fyddwch yn defnyddio'r simdde'n aml. Mae'n well gwneud hyn cyn i chi ddechrau defnyddio'ch simnai eto dros fisoedd y gaeaf."

 

Dyma air i gall gan Gary er mwyn eich cadw mor ddiogel â phosibl rhag tanau simnai yn y cartref:

 

  • Dylid glanhau ac archwilio ffliwiau a simneiau i wneud yn siŵr nad oes dim byd yn eu blocio a'u bod mewn cyflwr gweithredol da cyn eu cynnau. Gall simnai ddiffygiol neu un sydd wedi ei blocio achosi tân neu wenwyn carbon monocsid, felly mae'n bwysig eich bod yn cyflogi glanhawr simdde proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda Chymdeithas Genedlaethol y Glanhawyr Simnai.

 

  • Mae'r gwaith cynnal a chadw yn dibynnu ar y math o danwydd yr ydych yn ei losgi - os ydych yn llosgi olew, nwy neu lo di-fwg mae gofyn i chi lanhau'ch simdde unwaith y flwyddyn,  os ydych yn llosgi glo rhwym bydd gofyn i chi ei glanhau ddwywaith y flwyddyn, ac os ydych yn llosgi pren yna mae'n rhaid ei glanhau hyd at bedair gwaith y flwyddyn.

 

  • Peidiwch â llosgi pren gwlyb - ni ddylech losgi pren sydd yn cynnwys mwy na 17% o leithder.  

 

  • Wrth feddwl am sut i wresogi'ch cartref, mae'n bwysig eich bod yn prynu'r cyfarpar maint cywir ar gyfer yr ystafell - os ydy'r cyfarpar yn rhy fawr ni fydd yn ddigon poeth i losgi'r holl danwydd a bydd unrhyw danwydd na fydd yn cael ei losgi'n mynd i fyny'r simdde ac yn cywasgu'r ffliw gan droi'n greosot fflamadwy iawn.  

 

Fe ychwanegodd Gary: "I leihau'r perygl o dân yn y cartref, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd y colsion poeth yn iawn cyn mynd i'r gwely a defnyddiwch gard i amddiffyn rhag gwreichion neu golsion poeth.

 

Pe byddai'r gwaethaf yn digwydd, gall larwm mwg achub eich bywyd a rhoi cyfle i chi fynd allan o'r tŷ - profwch eich larwm yn rheolaidd.  Cofiwch, os nad oes gennych larwm mwg mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gosod rhai yn rhad ac am ddim - i gofrestru  galwch ein llinell gymorth 24 awr ar  0800 169 1234."

 

 

 

 

Rhannu gwybodaeth am ddiogelwch tân ymysg myfyrwyr

 

Y mis hwn byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau addysgol yn ein rhanbarth  er mwyn cadw myfyrwyr sydd yn astudio yng Ngogledd Cymru mor ddiogel  phosibl rhag tân.

 

Mae staff wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau yng Ngholeg Menai ym Mangor a Llangefni yn ystod 'wythnos y glas' a byddant yn cwrdd â mwy o ysgolheigion yn ystod ffeiriau i fyfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Glyndŵr yn ddiweddarach yn y mis.

 

Os ydych chi'n cychwyn yn y brifysgol neu'r coleg y mis hwn, neu os ydy'ch plant yn gadael y nyth am y tro cyntaf a'ch bod am wneud yn siŵr eu bod yn cadw'n ddiogel, mae ein safle Facebook yn lle gwych i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol am ddiogelwch tân - ewch i  www.facebook/northwalesfireservice a dilynwch  ni i gael gwybod mwy.

 

Byddwn yn cyhoeddi nifer o fideos diogelwch tân newydd a gafodd eu cynhyrchu gan fyfyrwyr Glyndŵr ar ein tudalen y mis hwn a byddwn hefyd yn cyhoeddi lluniau a chyngor wedi i ni ymweld â'r Prifysgolion.  Y mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau - cyfathrebu yw hanfod rhwydweithio cymdeithasol ac rydym am wneud yn siŵr bod gan bawb yr wybodaeth ddiweddaraf.  

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen