Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

 

Fe gyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund Seymour Bailey,  Fedalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw i staff gweithredol yn ystod seremoni Wobrwyo a  gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl Nos Lun 1af Medi.

Mae'r Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn cael eu cyflwyno i ddiffoddwyr tân gan un o Gynrychiolwyr Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.

Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân : "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig iawn i bob diffoddwr tân ac mae'r seremoni hwn yn cynrychioli dros 100 mlynedd o ymroddiad ac ymrwymiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dylai pob un ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi derbyn y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw neu Wobr am Wasanaeth Teyrngar. "

Fe gyflwynwyd un ar ddeg o wobrau cymunedol yn ystod y seremoni yn ogystal i gydnabod aelodau staff ac aelodau'r gymuned sydd wedi gweithio'n galed i wella diogelwch cymunedol yng Ngogledd Cymru.

 

Medalau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw'r Gwasanaeth Tân

 

 

Christopher Robert Nott

 

Fe ymunodd Christopher gyda Gwasanaeth Tân Clwyd yn 1994 fel Diffoddwr Tân yn y Rhyl cyn dod yn Ddiffoddwr Tân Arweiniol yn 1997 ac Is-swyddog yn 1999.

Fe aeth Christopher ymlaen i fod yn Rheolwr Gorsaf yn 2005 a chafodd ei benodi'n Rheolwr Grŵp dros dro yn 2013.


Ar hyn o bryd mae Christopher yn Rheolwr Diogelwch Cymunedol yn Swyddfa Ardal Wrecsam.  

 

 

Jennifer Ellis

 

Fe ymunodd Jennifer gyda Gwasanaeth Tân Clwyd fel Swyddog Ystafell Reoli Dros Dro yn  1993, yng Ngorsaf Dân y Rhyl. Daeth yn Swyddog Rheoli parhaol yn 1994.

 

Cafodd Jennifer ei dyrchafu'n Swyddog Ystafell Reoli Arweiniol yn 2001 ac yna'n Rheolwr Gwylfa yn 2005.


Ar hyn o bryd mae Jennifer Yn Rheolwr Gwylfa yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.

 

 

Harvey Campbell

 

Fe ymunodd Harvey gyda Gwasanaeth Tân Clwyd ym mis Chwefror 1994 fel diffoddwr  tân yn Wrecsam. Cafodd Harvey ei benodi'n Ddiffoddwr Tân arweiniol yn 2001.

 

Mae Harvey yn Rheolwr Criw yng Ngorsaf Wrecsam.

 

 

Ricky Morris

 

Fe ymunodd Ricky gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd fel diffoddwr tân yn Abermaw yn 1992.


Yn  2005 cafodd ei benodi'n Swyddog Cydlynu Diogelwch Tân Cymunedol yn Abermaw.  Yn 2012 cafodd ei benodi'n Rheolwr Criw.

 

Mae Ricky wedi llwyddo i gael ei benodi'n ddiffoddwr tân amser cyflawn yn Wrecsam. At hyn, y mae hefyd yn parhau i weithio fel Rheolwr Gwylfa dros dro yn Abermaw.

 

Shaun Alexander Miller

 

Fe ymunodd Shaun gyda Gwasanaeth Tân Clwyd fel diffoddwr tân yn Wrecsam yn 1994 a daeth yn Ddiffoddwr Tân Arweiniol yn 1999.

 

Mae Shaun yn Rheolwr Criw yng Ngorsaf Wrecsam.

 

Richard Sean Clutton

 

Fe ymunodd Richard  gyda Gwasanaeth Tân Clwyd ym mis Ebrill 1994 fel diffoddwr tân yn Wrecsam. Mae wedi bod yn Rheolwr Criw dros dro yn ystod ei yrfa.

 

Mae Richard yn ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Wrecsam ar hyn o bryd.

 

 

Amanda Jane Ripley

 

Ymunodd Amanda gyda Gwasanaeth Tân Clwyd fel Swyddog Rheoli Tân ym mis Mawrth 1993 yng Ngorsaf y Rhyl.  Mae Amanda wedi gweithio fel Swyddog Rheoli Arweiniol a Rheolwr Criw yn ystod ei gyrfa.  

 

Mae Amanda yn Ddiffoddwr Tân - Rheoli yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.

 

 

Mark Lawrence Ridgway

 

Fe ymunodd Mark gyda Gwasanaeth Tân Clwyd fel diffoddwr tân yn Rhuthun yn 1994.

 

Y mae wedi gweithio ym Mae Colwyn yn 2002 ac yn Wrecsam yn 2004.

 

Ar hyn o bryd mae Mark yn ddiffoddwr tân yng ngorsaf Glannau Dyfrdwy.

 

David Wyn Jones

 

Fe ymunodd David gyda Gwasanaeth Tân Gwynedd yn 1994 fel Diffoddwr Tân yng Ngorsaf Aberdyfi. Yn 2002 cafodd ei benodi'n ddiffoddwr tân  ym Mangor. Yn ddiweddar cafodd David flas ar fod yn Rheolwr Criw ym Mangor.

 

Mae David yn ddiffoddwr tân yng ngorsaf Bangor ar hyn o bryd.

 

 

GWOBRAU CYMUNEDOL

 

Cyfraniad Arbennig gan Unigolyn

 

Y mae'r wobr yma'n cydnabod aelod staff sydd wedi gweithio tu hwnt i'w dyletswyddau arferol.

 

Cyflwynwyd y wobr i dri unigolyn.

 

Y cyntaf oedd Neil Shivlock.

 

Mae Neil yn Ddiffoddwr Tân yng Ngorsaf Dân Pwllheli. Ef oedd wrth wraidd sefydlu cangen Cymdeithas Diffoddwyr Tân Ifanc yn yr orsaf ar ôl hel atgofion gyda chydweithwyr am yr hwyl yr arferai ei gael wrth ymweld â'r orsaf dân yn blentyn.

Sefydlodd y gangen gyda help gan ei gydweithwyr ac y mae wyth o blant bellach yn ymweld â'r oraf bob wythnos i fwynhau gweithgareddau a'r buddion sydd ynghlwm â bod yn aelod o Gymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc.

 

Oherwydd penderfyniad Neil i sefydlu cangen ym Mhwllheli, mae'n amlwg bod plant yr ardal yn elwa o'i ymrwymiad a'i ymroddiad.  

 

Mae Stuart Evans yn ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Wrecsam.

 

Fel y gwyddom, prif nod y Gwasanaeth yw cadw pobl yn ddiogel drwy gynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref a gosod larymau mwg.

 

Mae ymrwymiad Stuart i ddiogelwch cymunedol yn ei gymuned leol yn amlwg oherwydd ei fod wedi mynd y tu hwnt i ofynion ei wylfa drwy gwblhau 565 o archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ei hun  y llynedd.

 

Mae Gary Price yn ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Bae Colwyn.

 

Am dros 15 mlynedd mae Gary wedi bod yn rhan o gynllun Gwobr Dug Caeredin, yn Ysgol Bryn Eilian.

Mae'n cydlynu'r holl weithgareddau gyda'r disgyblion ac maent yn cael cyfle i gael blas ar waith y diffoddwr tân yn ogystal â dysgu mwy am faterion diogelwch tân.


Yn aml iawn mae Gary yn rhoi o'i amser i wella'r cwrs a heb ei ymroddiad ef ni fyddai'r cwrs yn parhau.  

Mae'r bartneriaeth rhwng Gary a staff Ysgol Bryn Eilian yn rhoi cyfle i'r disgyblion ennill cymhwyster ychwanegol.

 

Cyfraniad arbennig i'r Gymraeg

 

Cyflwynir y wobr hon i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i'r Gymraeg.

Mae  Osian Hywel yn gweithio yn yr Adran Hyfforddiant yn y Rhyl ac y mae'n frwdfrydig dros y Gymraeg.

 

Mae Osian wedi bod yn Hyrwyddwr Iaith Gymraeg ers iddo ymuno gyda'r Adran Hyfforddiant y llynedd ac y mae bob amser yn hybu Cymraeg yn y gweithle.  

Y mae bob amser wedi bod yn ymrwymedig iawn i'w rôl fel hyrwyddwr drwy gyflwyno mwy o Gymraeg i gyrsiau hyfforddi, ymweld â gorsafoedd i helpu gyda'r Gymraeg, cwblhau asesiadau Cymraeg a chreu agwedd bositif tuag at ddysgu'r iaith yn gyffredinol.

 

Yn ystod modiwl cychwynnol i ddiffoddwyr tân yn ddiweddar roedd nifer o recriwtiaid newydd, a oedd yn ddi-gymraeg, wedi magu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg erbyn diwedd y drydedd wythnos a hynny oherwydd Osian.

 

Y Wobr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

 

Mae'r Wobr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cydnabod gwaith asiantaethau partner neu gyrff cyhoeddus sydd yn gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu hymgais i rannu negeseuon diogelwch yn y  gymuned.

 

Mae'r wobr eleni yn cael ei rhannu gan ddau sefydliad.

 

Mae CAIS yn elusen gofrestredig a darparwr sector gwirfoddol arweiniol sydd yn cynnig gwasanaethau cefnogi yng Nghymru er mwyn helpu pobl sydd gan broblemau megis llwyrddibyniaeth, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth. Mae CAIS wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaid gydag eraill yn unol â Strategaeth Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru - Mynd i'r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.

Yn dilyn marwolaeth drasig  yn y gymuned y 2011,  daeth i'r amlwg bod yr unigolyn yn un o gleientiaid CAIS ac e fod cyn ei farwolaeth wedi bod yn rhan o gynllun triniaeth CAIS.  Ar sail yr wybodaeth yma, a'r ffaith bod alcohol wedi cyfrannu tuag at y tân angheuol, trefnwyd cyfarfod rhwng CAIS gyda'r nod o sefydlu gweithdrefnau ffurfiol ar gyfer atgyfeirio unigolion i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref.  

Mae'r broses atgyfeirio wedi datblygu ac  ehangu'n bartneriaeth bositif iawn, sy'n galluogi i'r Gwasanaeth ymgysylltu gydag unigolion anodd eu cyrraedd sydd ymhlith y bobl fwyaf bregus yn ein rhanbarth. Weithiau mae cleientiaid yn amharod i fanteisio ar archwiliad diogelwch tân yn y cartref ac rydym yn gweithio gyda CAIS  er mwyn canfod ffyrdd o sicrhau ac annog pobl i gael archwiliad. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau gan CAIS drwy weithio gyda hwy yn rhagweithiol i ddiogelu eu cleientiaid yn well rhag tân yn y cartref.

Hyd yn hyn, rydym wedi derbyn dros 600 o atgyfeiriadau risg uchel  gan CAIS ers i'r broses gael ei mabwysiadu. Mae gan y cleientiaid hyn nifer o'r  rhinweddau a nodwyd yn Adroddiad Grŵp Tasg Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân sy'n golygu eu bod mewn perygl o farw mewn tân. Mae 'r rhain yn cynnwys pobl dros 60oed, pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain , neu rai gyda nam meddyliol neu gorfforol.

Mae'r dull hwn wedi ei gefnogi fan Reolwyr CAIS ac maent wedi llwyddo i gyfathrebu'n wych gyda'r Gwasanaeth.

Cyflwynwyd yr ail wobr yn y categori hwn i Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Dros y tair blynedd diwethaf mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd wedi magu partneriaeth waith ragorol gyda Gwasanaeth Tân ac achub Gogledd Cymru drwy ddangos eu brwdfrydedd a'u cefnogaeth i faterion diogelwch cymunedol eu tenantiaid.

 

Drwy'r bartneriaeth mae nifer o fentrau wedi cael eu datblygu megis y Cynllun Wardeiniaid Ifainc a'r Cynllun Pobl Hŷn.  Mae'r bartneriaeth wedi ei chroesawu gan staff u naill sefydliad, sydd yn gweithio tuag at yr un nod, sef gwneud yn siŵr bod tenantiaid Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn fwy diogel yn eu cartrefi.

 

Mae rhannu data ac atgyfeiriadau wedi bod yn allweddol i lwyddiant y bartneriaeth hon, ac y mae pob tenant newydd yn cael eu cyfeirio am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn awtomatig.

 

At hyn mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd  wedi cytuno i fonitro proffil eu tenantiaid a sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu cyfeirio ar unwaith i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Mae staff o'r naill sefydliad wedi cwblhau ymweliadau ar y cyd i ddarparu gwasanaethau ar y cyd yn y cartref.

 

Hyd yma, mae dros 600 o archwiliadau diogelwch tân yn y cartref wedi eu cwblhau yn eiddo Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Mae staff Tîm Cyfathrebu Corfforaethol Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn rhagweithiol iawn ar eu tudalennau cyfathrebu cymdeithasol ac maent wedi meithrin perthynas gydag Adran Cyfathrebiadau Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn rhanni a hybu negeseuon diogelwch.

 

 

Cyflogwr y Flwyddyn

 

Mae'r wobr Cyfloger y Flwyddyn yn cydnabod cyflogwr lleol sydd yn rhyddhau staff yn rheolaidd er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau diffodd tanau yn y gymuned. Mae'r cyflogwr hyn yn hanfodol o ran helpu i wneud yn siŵr bod peirannau tân ar gael ar hyd a lled y Gogledd.  

 

Mae'r wobr eleni'n mynd i Mr Gareth Roberts.

 

Ef yw perchennog Castle Bakery ym Miwmares, ac y mae wedi rhyddhau staff i ddiffodd tanau ers y 13 mlynedd ddiwethaf.  

 

Drwy ryddhau staff yn rheolaidd i ymateb i alwadau tân mae'r gwaith yn y becws yn aml iawn yn dod i ben am gyfnodau hir.  Fodd bynnag,  mae Gareth wedi parhau i ryddhau staff i ymateb i alwadau yn yr ardal.


Heb ei gydweithrediad ef mae'n bosib na fydda'i orsaf yn gallu ymateb i alwadau yn yr ardal - oni bai bod pob aelod o'r criw yn bresennol ni all y criw ymateb.  

 

Y Wobr Gorsaf y Flwyddyn

Cyflwynir y wobr i orsaf sydd wedi gwneud gwaith nodedig yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

Mae'r wobr eleni'n mynd i Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl .

 

Yn dilyn llifogydd difrifol yn Garford Road yn y Rhyl ar red Rhagfyr 2013, roed y rhaid i 300 o bobl adael eu cartrefi a mynd i Ganolfan Hamdden y Rhyl. AM dros wythnos fe ddefnyddiwyd Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl gan Gyngor Sir Ddinbych fel 'Siop un Stop' i'r rhai a oedd wedi gadael eu cartrefi fel y gallant ddod o hyd i gymorth gan wasanaethau i'w helpu i ailadeiladu eu bywydau, megis yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, cwmnïau yswiriant ac ymgynghorwyr ariannol.

 

Er bod grwpiau eisoes wedi trefnu i ddefnyddio'r orsaf, sicrhaodd y staff dan arweiniad  Neil Gallagher bod modd i'r grwpiau hyn ddefnyddio cyfleusterau eraill yn yr orsaf , ar y safle yn Sir Ddinbych neu mewn mannau eraill ar draws y Gwasanaeth.

 

Roedd yr Orsaf Dân Gymunedol hefyd ar agor drwy gydol y penwythnos fel bod modd i'r rhai a oedd mewn angen i ddod o hyd i gymorth.  Roedd yr orsaf yn safle cynnes a chysurus a gefnogwyd gan staff a oedd unai ar ddyletswydd neu a oedd wedi cynnig helpu gyda'r llwyth gwaith ychwanegol.

Llwyddodd staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i gynnal y cyfleusterau drwy sicrhau bod diodydd cynnes ar gael a chyfleusterau hylendid.  Oherwydd y tywydd roedd yn rhaid glanhau'r orsaf yn aml er mwyn gwneud yn siŵr bod y lle'n edrych yn broffesiynol. Roedd staff yn ymfalchïo yn edrychiad yr adeilad yn enwedig gan fod cymaint i asiantaethau a sefydliadau allanol yn defnyddio'r cyfleusterau.

 

Fe dderbyniom nifer o lythyrau gwerthfawrogiad gan  wleidyddion lleol a Chyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych  yn ystod yr wythnosau dilynol.

 

 

Person Ifanc y Flwyddyn

 

Cyflwynir y wobr i berson ifanc sydd wedi dangos ymrwymiad i weithgaredd gyda'r Gwasanaeth yn ystod y flwyddyn.

 

Mae Jasmyn Humphries ar fin cwblhau blwyddyn o brofiad gwaith gyda'r Gwasanaeth.

 

Mae'n un o gyn-ddisgyblion y Ffenics a aeth ymlaen i'r prosiect Ffenics 2.  Oherwydd iddi wedi arddangos sgiliau arweinyddiaeth gwych y mae ar hyn o bryd yn rhan o dîm sydd yn helpu pobl ifanc i elwa o'r cwrs.

 

Yn ogystal â'i gwaith gyda'r prosiect Ffenics y mae hefyd wedi datblygu' fenter 'Save Lives Wrexham' gydag un arall o gynddisgyblion y Ffenics a'i ffrind Laura Kendrick. Eu nod yw codi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o bwysigrwydd diogelwch y tu ôl i'r llyw.

Mae'r prosiect yn un o fentrau'r elusen 'Fixers' - symudiad cenedlaethol i bobl ifanc rhwng 16-25 mlwydd oed sydd yn eu hannog i ddefnyddio eu profiad hwy eu hun i wella rhywbeth yn eu cymuned.


Maent wedi cynhyrchu DVD a gafodd ei ffilmio yng ngorsaf Dân y Rhyl a Wrecsam a safle RAF Sealand. Ym mis Medi fe fydd  Jasmyn a Laura yn ymweld ag ysgolion uwchradd yn ardal Wrecsam i drafod eu profiadau a phwysigrwydd diogelwch ffordd.

Mae Jasmyn wedi ymrwymo i newid agweddau a chamsyniadau ei chyfoedion, ac roedd y Gwasanaeth yn falch o gefnogi ei DVD.

 

YGymuned Fwyaf Diogel

Mae'r wobr Y Gymuned Fwyaf Diogel yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi darparu gwasanaeth digyffelyb i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel aelod o'r system dyletswydd ar gael yn ôl y galw.


Eleni mae'r wobr yn mynd i Fishwick.

 

Fe ymunodd Mark gyda'r Gwasanaeth ym mis Medi 1980 ac y mae wedi gwasanaethu yng Ngorsaf Dân Llanelwy drwy gydol ei yrfa.  Y mae'n Rheolwr Gwylfa yn Llanelwy ar hyn o bryd.

 

Dysgwr y Flwyddyn

 

Cyflwynir y wobr Dysgwr y Flwyddyn i unigolyn sydd wedi dangos ymroddiad a dyfalbarhad tuag at ddysgu Cymraeg.

 

 

Y mae John Dowling yn ddiffoddwr tân yng Ngorsaf Dân Pwllheli.

Yn wreiddiol o Lerpwl fe briododd John ferch leol o Bwllheli. Fe gychwynnodd ddysgu Cymraeg pan roedd ei blant yn ifanc iawn ac  erbyn hyn y mae'n siarad Cymraeg yn Rhyl bob dydd yn y gymuned ac yn yr orsaf dân.


Mae'n esiampl wych i ddysgwyr eraill yn y Gwasanaeth o'r gwasanaeth uchel y gellir ei gyflawni wrth ddysgu Cymraeg fel ail iaith drwy ei ymrwymiad i 'r iaith dros y blynyddoedd..

 

 

Cyfraniad Arbennig i elusen

 

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno i Elusen neu Elusennau am eu Cyfaniad Arbennig.  Mae'r wobr yn mynd i berson neu dîm sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i godi arian i elusen, ac sydd wedi rhoi o'u hamser i helpu eraill.

 

Mae pedwar aelod staff o Gaernarfon ymhlith grŵp o bobl leol sydd wedi dod at ei gilydd i sefydlu elusen newydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn dioddef o ganser.

 

Mae Celfyn Evans, Keith Williams, Tim Lloyd ac Andrew Craig o Gaernarfon wedi helpu i greu'r elusen 'Gafael Llaw' sydd yn trefnu digwyddiadau i godi arian i helpu gyda'r frwydr yn erbyn canser.

 

Mae'r elusen yn cefnogi Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a'r elusen, Clic Sargent.
 

Fe drefnodd yr elusen dri digwyddiad y llynedd - gêm griced rhwng cyflogwyr a gododd dros £17,000, noson gomedi a gododd £1,888 a'r Ras Siôn Corn gyntaf erioed yng Nghaernarfon  a gododd £2,338 wedi i 250 gymryd rhan.


Roedd eu digwyddiad diweddaraf, 'Tour de Cymru', a oedd yn cynnwys seiclo o amgylch Cymru a Glannau Mersi i godi ymwybyddiaeth o effeithiau canser ar blant a phobl ifanc, yn ogystal â chodi arian i'r elusen.  


Fe gynhaliwyd y digwyddiad fis diwethaf ac fe ymwelodd y tîm â 15 o wardiau plant ar draws y wlad, yn ogystal â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli,  Senedd yng Nghaerdydd ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar hyd y daith 623 milltir.
 

Hyd yn hyn maent wedi codi dros £52,000 ac mae'r arian yn dal i ddod i mewn.

 

Y Cynllun Awgrymiadau gan Staff

 

Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i staff gynnig syniadau newydd fentrau newydd a fydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaeth. Eleni rydym yn manteisio ar y cyfle i gydnabod dau o'r awgrymiadau hyn.

 

Mae Helen Angel-Hayes yn gweithio yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy ac fe awgrymodd hi y dylid darparu cyfleusterau newid babanod yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl.

 

Mae Amanda Ripley hefyd yn gweithio yn y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd  ac fe awgrymodd hi ffordd well, mwy cost effeithiol, o gyfnewid larymau mwg diffygiol.

 

 

Gwobr Arloesi

Mae'r wobr yn cydnabod unigolyn sydd wedi canfod syniad newydd sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i'r Gwasanaeth.

 

Mae dau enillydd eleni.

 

Y cyntaf yw Paul Williams.

Mae Paul Williams Yn weithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref yn Ne Gwynedd.


Mae Paul wedi rhoi dwy fenter arloesol a llwyddiannus yn Ne Gwynedd  -roedd y cyntaf gyda salon trin gwallt yn Nolgellau sydd yn hybu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ac yn casglu atgyfeiriadau gan gwsmeriaid.

 

Un fwy diweddar, mae Paul wedi bod yn gweithio gydag  Emma Jones, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ardal Blaenau Ffestiniog, a gyda'i gilydd maent wedi trefnu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ar y cyd sydd yn cynnwys sgwrs gan Heddlu Gogledd Cymru ar atal troseddu.  Mae'r ymweliadau wedi bod yn llwyddiannus iawn.

 

Y mae hefyd wedi od yn rhan o'r Clybiau Cinio' a  gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Dolgellau, gan helpu i drefnu'r digwyddiad a rhoi cyflwyniad diogelwch tân i bawb sydd yn mynychu.

 

Mae'r ail wobr yn mynd i Steve Morris.

 

Mae Steve Morris yn gweithio yn yr adran Technoleg, Gwybodaeth a Chyfathrebu yng Nghonwy.

Mae Steve yn mynd tu hwnt i'w ddyletswyddau rheolaidd yn arferol, gan weithio oriau ychwanegol i fodloni'r galw.  Ei brif ddyletswyddau fel Dadansoddwr Rhwydweithiau yw rheoli systemau ffôn a rhwydwaith, ond y mae hefyd yn darparu cefnogaeth dechnegol a hyfforddiant i staff ar ystod eang o wasanaethau TGCh. Yn aml iawn ef yw'r un sydd yn datrys diffygion technegol cymhleth.

 

Er mwyn gwella ei sgiliau fel peiriannydd rhwydweithiau, fe fynychodd Steve ddosbarthiadau nos yn ei amser ei hun am ddwy flynedd i ddod yn Ddadansoddwr Rhwydweithiau Cisco Ardystiedig. Mae'r sgiliau hyn wedi galluogi iddo wneud gwelliannau i'r rhwydwaith.

 

Mae Steve hefyd wedi meddwl am ddatrysiadau arloesol ar gyfer y Gwasanaeth.  Ef oedd yn gyfrifol am y newidiadau i'r rhwydwaith sydd yn galluogi i staff ac ymwelwyr fynd ar y we ac y mae hefyd wedi gwella trefniadau parhad busnes. .Y mae hefyd wedi galluogi i rwydweithiau gael eu cysylltu ar bob safle fel y gallant gael eu defnyddio wrth Feistroli Digwyddiadau Arian Aml-asiantaeth.

 

Nid yw datblygu systemau yn rhan o'i swydd arferol ac y mae hyn wedi golygu llawer o ymroddiad gan Steve, sydd wedi cwblhau ymchwil a hyfforddiant er mwyn cyflwyno'r newidiadau hyn  i'r gwasanaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen