Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Torri’r dywarchen ar gyfer Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân Wrecsam

Postiwyd

 

CYNHALIWYD seremoni torri'r DYWARCHEN i ddechrau ar y gwaith o adeiladu Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân (AFSRC) yn Wrecsam heddiw (dydd Gwener 19 Medi, 2014).

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn buddsoddi mwy na £15 miliwn ar y cyd ar y ganolfan bwrpasol hon a fydd yn cynnwys gorsaf dân wyth-bae, gorsaf ambiwlans chwech-bae, ceginau, ystafelloedd loceri a chyfleusterau hyfforddiant cyffredin o'r radd flaenaf.

Ymunodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, â'r arweinwyr prosiect ar y lleoliad heddiw a hefyd AC Wrecsam, Lesley Griffiths.

Dywedodd yr Athro Drakeford:  "Mae Llywodraeth Cymru'n buddsoddi'n helaeth yn y ganolfan adnoddau newydd hon i ddarparu'r cyfleusterau mwyaf modern posibl i'r gwasanaethau ambiwlans a thân.  Bydd yn caniatáu mwy o gydweithio pan fydd angen ymateb i ddigwyddiadau a gwella amseroedd ymateb."

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Mae'n gyffrous gweld datblygiad mor arloesol yn cael ei adeiladu yn Wrecsam.  Mae croeso mawr i'r buddsoddiad hwn a bydd y cyfleuster modern, newydd, pwrpasol hwn yn y pen draw yn galluogi'r adrannau brys i ddarparu gwasanaeth gwell a mwy effeithlon i bobl leol Wrecsam."

Rhoddwyd caniatâd i adeiladu'r ganolfan deulawr ar dir i'r de o Ysbyty Maelor Wrecsam gan bwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam ym mis Mai a chymeradwy-wyd Achos Busnes Llawn gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.

Mae'r ystafelloedd ar gyfer yr ambiwlans yn cynnwys gweithdy fflyd, cyfleuster bod yn barod, garej chwech-bae, swyddfeydd ar gyfer staff a rheolwyr fflyd, ystafell ddibriffio a chanolfan leoli ar gyfer staff ymateb.

"Mae'r bartneriaeth hon yn rhoi cyfle i greu cyfleuster ar y cyd y gallwn ni fod yn falch ohono, yn yr un modd ag y mae Cyd-ganolfan Cyfathrebu gyda Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy wedi cynnig ymagwedd arloesol i wasanaethau brys gyd-weithio sy'n rhoi Gogledd Cymru ar y blaen mewn gweithrediadau 999," dywedodd.

"Bydd y prosiect yn cyflenwi cyfleusterau gwell ar gyfer ein staff a gwell gwasanaeth i'r cyhoedd yn yr ardal."

Bydd y cyfleuster ar Ffordd Croesnewydd yn cymryd lle'r orsaf dân bresennol ar Ffordd Bradley yn Wrecsam a'r gorsafoedd ambiwlans presennol yn y Waun a Wrecsam.

Ni fydd y gwasanaeth ambiwlans brys yn cael ei effeithio a bydd yn cael ei gynnal drwy leoli adnoddau o bwyntiau lleol wedi'u gosod yn strategol ar draws Wrecsam a'r Waun.

BAM Construction sy'n adeiladu'r AFSRC, sydd i fod i gael ei gwblhau ym mis Ionawr 2016

Dywedodd y Cyfarwyddwr Adeiladu Ged Flanagan: "Rydym yn falch o fod wedi cael ein dewis ar gyfer y contract hwn sy'n dilyn depot 'Bod yn Barod' cynt y mae BAM wedi'i adeiladu yn Sir y Fflint.  Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r ddau wasanaeth sydd ag anghenion cyffredinol tebyg ynghyd â'u gofynion penodol eu hunain.  Mae'n gynllun diddorol gydag ymagwedd arloesol ac, yn awr, gan i ni gael caniatâd cynllunio, rydyn ni'n edrych ymlaen at gael cyflenwi'r prosiect."

MACE fydd yn rheoli'r prosiect ei hun ac ychwanegodd Matthew Baines o'r cwmni: "Mae MACE yn hynod hapus o gael gweithio gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chwmni BAM i gyflenwi'r AFSRC.  Mae wedi bod yn uchafbwynt ymdrech tîm anferthol i gael y cynllun a'r gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen i adeiladu'r cyfleuster hwn yn Wrecsam."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen