Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am danau coginio ar ôl achub dau o dân yn Wrecsam

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion gadw llygaid ar fwyd sydd yn coginio wedi i griwiau gael eu galw i dân mewn cegin yn ardal Wrecsam ddoe (17eg Medi).

 

Cafodd dau griw o Wrecsam eu galw i eiddo ar Ffordd Rutland, Hightown am 12.33 o'r gloch wedi i fwyd gael ei adael yn coginio ar yr hob.

 

Cafodd dyn a dynes yn eu  30au hwyr eu hachub o'r eiddo ac roeddent yn ffodus eu bod wedi dianc yn ddianaf.  Cafodd y dyn driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.

 

Meddai Christ Nott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth arall yn mynd â'ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, gall y canlyniadau fod yn ddinistriol.

 

"Mae ein neges yn glir - peidiwch â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio, hyd yn oed am eiliad. Peidiwch â choginio ar ôl bod yn yfed a gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg.   Fe aethom at y digwyddiad hwn yn gyflym, felly yn ffodus iawn roedd y difrod wedi ei gyfyngu i'r gegin ond gallai'r tân fod wedi datblygu'n dân difrifol iawn yn gyflym gan nad oedd y preswylwyr yn ymwybodol eu bod mewn perygl.

 

"Mae larymau mwg yn achub bywydau. Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i'r wefan www.gwastan-gogcymru.org.uk , gan ddechrau'r neges gyda HFSC."

 

Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru - yn gynharach eleni fe lansiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r ymgyrch 'Peidiwch Â'n Gwahodd i Ginio - Meddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!' #peidiwchangwahoddiginio er mwyn helpu i leihau nifer y tanau coginio yn y rhanbarth ac i addysgu trigolion lleol am bwysigrwydd coginio'n ddiogel.

 

 

Gair i gall am ddiogelwch yn y gegin:

 

  • Os oes raid i chi adael yr ystafell tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydi coes y sosban yn mynd dros ochr y popty
  • Cadwch eich popty, hob a'ch gridyll yn lân - gall saim fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch byth â hongian dim byd uwch ben eich popty
  • Cymrwch bwyll os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl gorffen coginio gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd popeth
  • Diffoddwch gyfarpar trydan pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  • Peidiwch byth â choginio ar ôl bod yn yfed - prynwch tecawê
  • Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen