Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am blancedi trydan yn dilyn tân yn Abergynolwyn

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n rhybuddio am beryglon blancedi trydanol yn dilyn tân mewn eiddo yn Abergynolwyn y bore yma.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Dywyn ac Aberdyfi eu galw i eiddo ar Stryd Tan y Bryn, Abergynolwyn am 06.03 o'r gloch ddydd Gwener 28ain Mawrth.

Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a phibell dro i ddelio gyda'r tân.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 07.04 o'r gloch. Achoswyd difrod tân i'r gwely a difrod mwg yn yr ystafell wely a'r landin.

 

Meddai Terry Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Roedd dau o bobl yn yr eiddo ar adeg y tân.  Maent yn lwcus iawn eu bod wedi cael eu deffro gan arogl y mwg gan nad oedd larymau mwg yn bresennol yn yr eiddo.  Gallai'r dau fod wedi cael eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd o ganlyniad i'r digwyddiad hwn. Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar a'ch galluogi i ddianc o'r eiddo a galw am help.

 

"Credir bod  y tân wedi ei achosi ar ôl i flanced drydan orboethi a rhoi'r gwely ar dân.

 

"Rydym felly'n amlygu pwysigrwydd diogelwch blancedi trydan.

                                           
"Dylid profi blancedi trydan pob blwyddyn a gwneud i ffwrdd â hwy os nad ydynt yn cwrdd â'r safon angenrheidiol. Rydym hefyd yn cynghori pobl i beidio defnyddio blancedi trydan sydd dros 5 mlwydd oed, a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn unig.  Hefyd, peidiwch byth â gorlwytho socedi trydan a gwiriwch ffiws y flanced drwy agor casin y plwg.


"Mae'n bwysig bod blancedi trydan yn cael eu storio'n gywir pan nad ydynt yn cael eu defnyddio - gallwch ddifrodi gwifrau'r flanced os byddwch yn ei phlygu.  Dylid eu storio'n fflat neu eu rholio.  Profwch hwy cyn eu defnyddio os ydych wedi eu storio am gyfnod er mwyn  gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn.

 

"Peidiwch â'i gadael ymlaen drwy'r nos, oni bai bod thermostat arni i reoli'r gwres neu ei bod wedi cael ei dylunio i gael ei gadael ymlaen.  Dylai fod Marc Barcud y Safon Brydeinig a symbol y British Electrotechnical Approvals Board (BEAB) arni.

 

"Cofiwch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i gynnal asesiad diogelwch tân a chynnig cyngor, a gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim os oes angen.


"I gofrestru am archwiliad, ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen