Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch yn y Cartref

Postiwyd

 

Mae hi'n Wythnos Diogelwch yn y Cartref yr wythnos hon ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymuno gyda Gwasanaethau Tân ac Achub eraill ar draws y DU i atgoffa'r cyhoedd o bwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref.

 

Yr wythnos hon mae staff y Gwasanaeth wedi bod yn hybu pwysigrwydd diogelwch tân yn y cartref ar draws y rhanbarth.

 

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r wythnos yn gyfle da i drigolion y Gogledd ofalu bod eu cartrefi mor ddiogel â phosib rhag tân a'u bod wedi gosod larymau mwg ar bob llawr yn eu cartref - rydych bedair gwaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych larymau mwg gweithredol."

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i gwblhau asesiad diogelwch tân a rhannu cyngor, a gosod larymau mwg am ddim os oes angen.


"I gofrestru am archwiliad, galwch ein rhif ffôn 24awr ar 0800 169 1234 neu cysylltwch gyda ni drwy fynd i  www.larwmmwgamddim.co.uk."

 

Meddai Paul Fuller, Llywydd Cymdeithas y Prif Ddiffoddwyr Tân  (CFOA): "Gall larymau mwg roi ychydig funudau yn ychwanegol i chi a fydd yn eich galluogi i fynd allan o'ch cartref yn ddiogel mewn achos o dân."

 

Cyngor ar larymau mwg:

 

Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref

Mae GTAGC yn argymell bod pawb yn gosod larwm mwg yn y cartref, ac, os oes mwy nag un llawr yn eich cartref, dylech osod larwm mwg gweithredol ar bob llawr.  Gosodwch larwm mwg ar y llawr gwaelod ,a larymau ychwanegol ar ben y grisiau.  Gwnewch yn siŵr bod y larwm wedi ei osod mewn man lle gallwch ei glywed - hyd yn oed os bydd drysau ynghau.

 

Profwch eich larwm mwg bob wythnos

Mae larwm mwg gweithredol yn declyn achub bywyd hanfodol ar gyfer eich cartref.  Ceisiwch ddod i'r arfer o brofi'ch larwm bob wythnos neu bob mis er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio, drwy bwyso'r botwm profi.

 

Dewiswch larwm mwg sydd yn cwrdd â'ch anghenion

Mae larymau mwg yn ffordd rad o wella diogelwch yn eich cartref.  Mae GTAGC yn gosod larymau mwg optegol, sydd yn gallu synhwyro ystod eang o danau yn well oherwydd rheolaeth thermostatig, ac sydd yn llai tebygol o seinio'n ddiangen.  

 

Gofalwch am eich larwm mwg

Gofalwch am eich larwm mwg ac fe fydd yn gofalu amdanoch chi - cymrwch ychydig funudau i'w gynnal a'i gadw'n rheolaidd. Pob chwech mis glanhewch eich larwm mwg drwy ei lanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

 

 

Gofynion arbennig

Os hoffech gyngor ar larymau mwg arbenigol - pobl sydd gan nam ar eu clyw, er enghraifft - cysylltwch â GTAGC am gyngor.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen