Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Annog pobl i gymryd pwyll gyda blancedi trydan ar ôl i ddynes farw yn dilyn tân ym Mhenrhyndeudraeth

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio am beryglon blancedi trydanol wedi i ddynes farw yn dilyn tân mewn eiddo ym Mhenrhyndeudraeth wythnos diwethaf.

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i eiddo ar Stryd y Castell am 22.25 o'r gloch nos Iau 20fed Mawrth. Ar ôl cyrraedd daethant wyneb yn wyneb â thân a oedd wedi datblygu'n sylweddol mewn fflat uwchben y fferyllfa.

Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddelio gyda'r tân.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i ddynes 81 mlwydd oed yn yr eiddo a chafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan barafeddygon, ond bu farw'n fuan wedi hyn.    Llwyddodd ei phartner 88 mlwydd oed i fynd allan o'r eiddo a galw am help.

 

Meddai Terry Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Mae ymchwiliad ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wedi dod i'r casgliad mai nam mewn blanced drydan a oedd wedi achosi'r tân yn ôl pob tebyg.

 

"Rydym felly'n amlygu pwysigrwydd diogelwch blancedi trydan.

 

"Roedd y cwpl oedrannus wedi bod yn gwylio'r teledu pan ddaethant o hyd i'r tân yn yr eiddo.  Roeddent wedi troi'r flanced drydan ymlaen yn gynharach yn y noson.

                                                         
"Dylid profi blancedi trydan pob blwyddyn a gwneud i ffwrdd â hwy os nad ydynt yn cwrdd â'r safon angenrheidiol. Rydym hefyd yn cynghori pobl i beidio defnyddio blancedi trydan sydd dros 5 mlwydd oed, a'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn unig.  Hefyd, peidiwch byth â gorlwytho socedi trydan a gwiriwch ffiws y flanced drwy agor casin y plwg.


"Mae'n bwysig bod blancedi trydan yn cael eu storio'n gywir pan nad ydynt yn cael eu defnyddio - gallwch ddifrodi gwifrau'r flanced os byddwch yn ei phlygu.  Dylid eu storio'n fflat neu eu rholio.  Profwch hwy cyn eu defnyddio os ydych wedi eu storio am gyfnod er mwyn  gwneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n iawn.

 

"Peidiwch â'i gadael ymlaen drwy'r nos, oni bai bod thermostat arni i reoli'r gwres neu ei bod wedi cael ei dylunio i gael ei gadael ymlaen.  Dylai fod Marc Barcud y Safon Brydeinig a symbol y British Electrotechnical Approvals Board (BEAB) arni.

 

"Cofiwch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i gynnal asesiad diogelwch tân a chynnig cyngor, a gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim os oes angen.


"I gofrestru am archwiliad, ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk."

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen