Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Genedlaethol Systemau Chwistrellu

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Systemau Chwistrellu (3ydd - 9fed Chwefror 2014) wrth i drigolion ar draws Cymru baratoi ar gyfer deddfwriaeth newydd a  fydd yn ein helpu ni ddiogelu pobl a busnesau ledled y wlad.

O fis Ebrill 2014 bydd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud hi'n orfodol i bobl osod systemau Chwistrellu awtomatig mewn safleoedd risg uchel megis cartrefi preswyl, safleoedd sydd wedi eu haddasu'n neuaddau myfyrwyr, tai llety a rhai hostelau.  Ym mis Ionawr 2016, fe fydd hi hefyd yn dod yn orfodol i bobl osod systemau chwistrellu mewn  tai a fflatiau sy'n cael eu codi o'r newydd neu'n cael eu haddasu.

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu ein bod ni yma yng Nghymru yn arwain y ffordd o ran hybu diogelwch tân ac amddiffyn ein trigolion a'n busnesau.

"Mae manteision y systemau chwistrellu masnachol a domestig yn llawer mwy na chost gosod a chynnal a chadw'r systemau. Maent yn gwneud llawr mwy i'r DU na mae pobl yn ei feddwl - diogelu pobl, diffoddwyr tân, swyddi, cartrefi, busnesau, yr economi a'r  amgylchedd."

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn weithredol eto mewn mannau eraill o'r DU - fe lansiwyd yr Wythnos Genedlaethol Systemau Chwistrellu gyntaf ddydd llun, sydd yn galw am hybu'r systemau yn well ac adolygu'r  ddarpariaeth ar gyfer cynnwys systemau chwistrellu yn y safonau adeiladu.

Mae Wythnos Systemau Chwistrellu 2014 yn ymgyrch a fydd yn cael ei chynnal yn flynyddol o hyn ymlaen.  Nod yr ymgyrch yw hybu'r neges syml hon: mae rheoli tân wrth iddo ddechrau yn well na delio gyda'r gwaith atgyweirio ar ôl i'r tân ledaenu.

 

Fe ychwanegodd Gary: "Mae systemau chwistrellu fel cael diffoddwr tân ymhob ystafell yn eich cartref neu'ch busnes rhag ofn i dân gynnau.

"Mae'r mwyafrif o danau a marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân yn digwydd yn y cartref.  Gall hyd yn oed tân bychan achosi difrod sylweddol.  Bod diwrnod yn y DU mae dau o bobl yn cael eu lladd mewn tân a 50 yn cael eu hanafu.

"Yn ddiweddar bu farw nifer o drigolion yn dilyn tân mewn cartref preswyl ynQuebec.  Mae'r digwyddiad wedi amlygu pwysigrwydd systemau chwistrellu - tra bod larymau mwg yn rhybuddio pobl am dân nid ydynt yn gwneud dim i reoli'r tân ei hun.    Dyma pam y gall system chwistrellu mewn adeiladau preswyl wneud gwahaniaeth mawr - helpu i reoli'r tân neu ei ddiffodd yn gyfan gwbl."

 

Mythau am systemau chwistrellu

Myth 1: Bydd pob chwistrellwr yn actifadu pan fydd tân, gan achosi gorlif yn fy nghartref.
Bydd y chwistrellwyr unigol yn actifadu unwaith y bydd y tymheredd yn yr ystafell yn cyrraedd pwynt penodol.  Mae gan y chwistrellwyr synwyryddion gwres unigol - felly byddant yn rhyddhau dŵr yn yr ardaloedd hynny lle mae'r tân. Yn achos 60% o ddigwyddiadau, cafodd tanau eu rheoli gan ddŵr o bedwar chwistrellwr neu lai.  Mae diffoddwyr tân fel arfer yn defnyddio 15 gwaith mwy o ddŵr i wneud yr un dasg â'r systemau chwistrellu.  

Myth 2: Mae'n costio gormod i osod system chwistrellu.
Mewn adeiladau newydd mae'r gost o osod systemau chwistrellu yn fforddiadwy, o ystyried oes yr adeilad - mae'n costio tua'r un faint â gosod carpedi newydd yn yr adeilad.

Mae'n bosib hefyd y bydd cwmnïau yswirio yn rhoi disgownt i adeiladau sydd gan systemau chwistrellu, ac y bydd taliadau ychwanegol y polisi yn llawer is.

Myth 3: Mae'n costio gormod i gynnal a chadw systemau chwistrellu
Mae'n costio rhwng tua £75-£150 y flwyddyn i gynnal a chadw system chwistrellu ddomestig (£6.25-£12.50 y mis). Mae hyn yn llawr llai a'r gost o brynu dodrefn newydd pe byddai tân yn digwydd.

Myth 4:Mae systemau chwistrellu yn hyll ac yn effeithio ar ddyluniad yr adeilad.
Gall systemau chwistrellu gyfrannu ar ryddid dylunio, yn enwedig wrth godi adeilad newydd. Gallant alluogi i chwi gael ystafelloedd mwy a lleihau parwydydd, neu alluogi i gynllun yr adeilad gwrdd ag anghenion y preswylwyr yn well. Gellir eu gosod mewn cilfachau neu ar gyfwynebiadau fel nad ydynt yn tynnu sylw.

Myth 5: Mae systemau chwistrellu yn annibynadwy.
Mae cofnodion byd eang yn dangos mai dim ond 1 o bob 16 miliwn o system chwistrellu sydd yn cael eu gosod bob blwyddyn sydd yn methu.  Mae pob chwistrellwr yn cael ei archwilio'n iawn cyn gadael y ffatri gynhyrchu.  

Myth 6: Mae systemau chwistrellu yn llwyddiannus yn achos tanau y gellir eu diffodd gyda dŵr yn unig.
Gellir cynnwys ewyn yn y systemau chwistrellu erbyn hyn er mwyn rheoli hylifau fflamadwy a thanau cemegol a phetroliwm.

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen