Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Gwynedd

Postiwyd

Fe gymrodd plant lleol ran yng nghwrs Ffenics arloesol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r wythnos diwethaf.

Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu
bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil  a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.

Cynhaliwyd y cwrs  ar gyfer disgyblion o Ysgol y Gader, Dolgellau yng Ngorsaf Dân Y Bala.

Meddai Eryl Owen, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cwrs wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor.

"Nod y cwrs yw ysgogi'r bobl ifanc a'u gwneud i deimlo'n fwy positif amdanynt eu
hunain, a fydd, o ganlyniad, yn eu gwneud yn ddinasyddion gwell .

"Rydym yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen