Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân difrifol yn Llanrwst – amlygu pwysigrwydd diogelwch trydanol

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu pwysigrwydd diogelwch trydanol wedi i ddau ddyn 19 a 39 mlwydd oed farw yn dilyn tân yn Llanrwst Ddydd Gwener 10fed Hydref.

 

Mae'r ymchwilwyr wedi dod i'r casgliad bod y tân wedi ei achosi, yn fwy na thebyg, gan beiriant sychu dillad ac mae'r mater bellach yn amodol ar gwest  Crwner.

 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fflat yn Sgwâr Ancaster, Llanrwst am 06.03 o'r gloch.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae tanau trydanol yn achosi risg gwirioneddol  i berchnogion tai, ac yn aml iawn maent yn achosi difrod sylweddol ac ar adegau gallant arwain at ganlyniadau trasig iawn fel yn achos y tân yn Llanrwst yr wythnos diwethaf.  

 

"Rydym yn cael ei galw i oddeutu 470 o danau damweiniol bob blwyddyn ac  mae trydan neu gyfarpar trydanol yn gyfrifol am oddeutu 300 o'r rhain.

 

"Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'ch bod yn archwilio offer trydanol a lidiau rhag ofn eu bod wedi ei difrodi neu dreulio.  Mae nifer o drigolion heb yn wybod iddynt hwy yn defnyddio cyfarpar trydanol hen neu beryglus ac yn gorlwytho socedi, a all arwain at danau angheuol.

 

"Ar ein gwefan mae gennym gyfrifiannell 'ampau' defnyddiol iawn sydd yn dweud wrth os ydych yn gorlwytho socedi a'ch helpu i fod yn ddiogel rhag tanau trydanol. www.gwastan-gogcymru.org.uk."

 

 

"Mae Wythnos Diogelwch Tân Trydanol yn cychwyn ar y 10fed o Dachwedd - rwyf yn annog pob un ohonoch i ddysgu gwersi o'r digwyddiad trasig hwn ac i wneud ymdrech gydwybodol i gymryd gofal arbennig gydag offer trydanol."

 

Roedd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ardal Llanrwst dros y penwythnos yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i drigolion a hybu perchnogaeth larymau mwg.

 

"Ynghyd â'r holl agweddau o ddiogelwch tân yn y cartref sydd wedi eu cynnwys fel rhan o'n Harchwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref, larymau mwg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o'ch cadw'n ddiogel yn y cartref - ac eto mae oddeutu 20% o'r cartrefi yr ydym yn ymweld â hwy, unai i gwblhau archwiliad neu i ymateb i ddigwyddiadau, heb larwm mwg gweithredol," meddai Gary Brandrick.

 

Yn dilyn y digwyddiad fe gydymdeimlodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith gyda theulu a ffrindiau'r rhai a fu farw yn o ganlyniad i'r digwyddiad trasig hwn.  

 

"Er gwaethaf llwyddiant ein gwaith ataliol, mae'r digwyddiad hwn yn ein hatgoffa y gall tân ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le ar unrhyw adeg ac ni wyddwn i ble yng Ngogledd Cymru y caiff ein criwiau tân yn cael galw nesaf," meddai

 

Mae modd i drigolion yng Ngogledd Cymru alw ein llinell rhadffôn 24 awr ar  0800 169 1234 neu fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen