Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Myfyrwyr yn cael A* mewn diogelwch tân

Postiwyd

Yr wythnos hon fe aeth staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r ffeiriau myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor  a Phrifysgol Glyndŵr fel rhan o'r Ymgyrch Diogelwch Myfyrwyr blynyddol.

Eleni, yn ogystal ag ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffeiriau rydym wedi gweithio gyda'r Prifysgolion  i'w haddysgu am ddiogelwch tân a lleihau galwadau tân diangen.  Bydd y Gwasanaeth yn targedu myfyrwyr a allai fod yn agored i niwed mewn lletyai sy'n cael eu rhentu'n breifat.

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Rydym wedi cael wythnos brysur iawn yn siarad gyda'r myfyrwyr am bwysigrwydd diogelwch tân a rhannu cynghorion diogelwch gyda hwy i'w cadw'n ddiogel. Rydym hefyd wedi bod yn eu haddysgu am sut i osgoi achosi galwadau tân diangen mewn neuaddau preswyl - rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r prifysgolion ar y mater ers rhai blynyddoedd bellach ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol.

"At hyn, fis nesaf byddwn yn targedu myfyrwyr mewn tai rhent preifat, drwy gnocio ar ddrysau a chynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim er mwyn helpu i'w cadw mor ddiogel â phosib.

"Mae nifer o'r bobl ifanc hyn yn byw oddi cartref am y tro cyntaf ac felly mae'n ddigon posib eu bod yn agored i niwed.

"Rydym hefyd yn defnyddio ein tudalennau rhwydweithio cymdeithasol i rhannu ein negeseuon - ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice ac edrychwch ar y tab 'Cystadleuaeth Myfyrwyr' i gael gwybod mwy ac am gyfle i ennill Kindle, neu dilynwch ni ar Twitter @northwalesfire."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen