Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dewch i gael golchi eich car a chodi arian i elusen!

Postiwyd

Mae Diffoddwyr Tân Gogledd Cymru yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol y mis yma, er mwyn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn ddigwyddiad sefydlog ar galendr y gwasanaeth tân ac achub erbyn hyn gan mai dyma un o brif ddigwyddiadau codi arian yr elusen.  Gwahoddir gyrwyr i fynd draw i'w gorsaf dân leol i gael golchi eu ceir am rodd i Elusen y Diffoddwyr Tân, un o'r prif elusennau yn y DU sydd yn darparu gwasanaethau i wella ansawdd bywyd cyn ddiffoddwyr tân a diffoddwyr tân a'u teuluoedd.

Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar Sadyrnau drwy gydol y mis yma.

Meddai Paul Claydon, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Mae'r arian sydd yn cael ei godi yn ystod digwyddiadau codi arian cenedlaethol yn hwb mawr i'r Elusen.  Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad hwyliog a phoblogaidd iawn, mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddiffoddwyr tân rannu negeseuon diogelwch pwysig gydag aelodau'r cyhoedd yn eu cymunedau lleol.

"Rydym yn falch bod cymaint o'n gorsafoedd tân yn cymryd rhan ac rwyf yn apelio ar i bobl leol fynd draw i'w gorsaf i gefnogi'r diwrnod.  Bydd eich rhodd yn helpu miloedd o ddynion, merched a phlant o'r gymuned tân ac achub pan fyddant mewn angen"

Mae golchfeydd ceir yn cael eu cynnal yn y gorsafoedd tân canlynol:

 

Gwynedd

Gorsaf Dân Bangor - 9.3.13

Gorsaf Dân Caernarfon- 30.3.13

Gorsaf Dân Pwllheli - 16.2.13

Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog - I'w gadarnhau

Gorsaf Dân Nefyn - 9.3.13

Gorsaf Dân Dolgellau  - 16.3.13


Ynys Môn

Gorsaf Dân Caergybi- 16.3.13

Gorsaf Dân Llangefni- 1.3.13

Gorsaf Dân Biwmares- 16.3.13

Gorsaf Dân Benllech - 16.3.13

Gorsaf Dân Amlwch- 13.4.13

Gorsaf Dân Rhosneigr- 9.3.13

 

Wrecsam

Gorsaf Dân Wrecsam  -9.3.13

Gorsaf Dân Johnstown- 23.3.13

 

Sir y Fflint

Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy - 16.3.13

Gorsaf Dân yr Wyddgrug- 16.3.13

 

Conwy

Gorsaf Dân Llandudno-23.3.13

Gorsaf Dân Bae Colwyn- 23.3.13

Gorsaf Dân Cerrigydrudion- 9.3.13

 

Sir Ddinbych

Gorsaf Dân y Rhyl- 30.3.13

Gorsaf Dân Rhuthun- 16.3.13

Gorsaf Dân Prestatyn- 23.3.13

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen