Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i roi terfyn ar danau bwriadol

Postiwyd

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol y Gogledd yn erfyn ar i drigolion eu helpu i roi terfyn ar danau bwriadol wrth i'r gwanwyn agosáu.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Wrth i'r nosweithiau fynd yn oleuach a phan fydd y tywydd yn mynd yn fwynach, rydym yn aml iawn yn gweld cynnydd yn nifer y tanau bwriadol sydd yn cael eu cynnau yn y rhanbarth.  Mae'r clociau'n cael eu troi ymlaen ddydd Sul a'r plant yn mwynhau gwyliau'r Pasg - felly rydym yn erfyn ar y gymuned i'n helpu i fynd i'r afael â'r unigolion hynny sydd yn cynnau tanau'n fwriadol.

 

"Hoffwn fachu ar y cyfle i erfyn ar i rieni fod yn ymwybodol o ble mae eu plant yn mynd a phwyso arnynt fod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau.  Yn aml iawn mae criwiau'n cael eu hatal rhag ymateb i argyfyngau gwirioneddol oherwydd eu bod wrthi am gyfnodau hir yn ceisio diffodd y tanau hyn.

 

"Cofiwch -  mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r broblem.  Rydym yn defnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i'r tanau hyn a chwilio am ddrwgweithredwyr.

"Cynghorir unrhyw un sydd gan wybodaeth am y math yma o droseddau i ffonio Taclo'r Taclau ar 0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen