Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llifogydd

Postiwyd

 

Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 34 o alwadau yn ymwneud â llifogydd rhwng 10am a 2.30pm.

Fe anfonwyd diffoddwyr tân a swyddogion i nifer o ddigwyddiadau a chafodd eraill gyngor dros y ffôn gan ein staff yn yr ystafell reoli.

Roedd mwyafrif y digwyddiadau yn ardaloedd Garford Road, Ridgeway Avenue a Ffordd y Glannau ,y Rhyl, ac fe gydweithiodd criwiau achub o ddŵr GTAGC a'r RNLI er mwyn achub pobl a'u helpu i adael eu cartrefi.

Roedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys llifogydd y tu mewn a thu allan i gartrefi a thanau yn y cartref ar Garford Road, y Rhyl am 12.31o'r gloch ac am 13.26 o'r gloch a 13.44 o'r gloch ar Ffordd y Glannau, y Rhyl lle'r oedd y llifogydd wedi achosi tanau mewn unedau trydan yn y cartrefi.  Ni achoswyd unrhyw ddifrod difrifol a ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Fe anfonwyd pympiau cyfaint uchel i'r Rhyl er mwyn cael gwared ar y llifddwr.

Fe dderbyniom alwadau yn ein rhybuddio am lifogydd ym Mae Cinmel Llandudno a Thalacre yn ogystal.

Cynghorir y cyhoedd i ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â beth i'w wneud yn ystod llifogydd: www.cyfoethnaturiolcymru.co.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen