Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad Llifogydd

Postiwyd

Mae'r ymateb amlasiantaethol i lifogydd ar hyd arfordir y Gogledd yn parhau

Mae trigolion yn cael eu hannog i gadw llygaid ar negeseuon a gyhoeddir gan y gwasanaethau brys ar y rhyngrwyd, radio a theledu er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Am 2.00 pm heddiw gofynnwyd i bobl sydd yn byw neu weithio yn yr ardal rhwng Maes Glas a Bagillt ac ardal y Pwynt Du, Sir y Fflint adael eu cartrefi a chafodd canolfan orffwys ei sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon gan Gyngor Sir y Fflint.

Y mae cartrefi ar Garford Road, y Rhyl wedi dioddef llifogydd a bu'n rhaid i drigolion fynd i Ganolfan Hamdden y Rhyl lle'r oedd canolfan orffwys wedi cael ei sefydlu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Bydd y gwasanaethau brys yn cyhoeddi rhybuddion pellach i'r wasg ac ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol os bydd yn rhaid gofyn i ragor o bobl adael eu cartrefi. Byddant hefyd yn mynd i leoliadau gwahanol er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen