Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio pobl i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd

Postiwyd

Y mae trigolion sydd yn byw yn ardal Maes Glas a Bagillt, Sir y Fflint ac ardal y Pwynt Du yn cael eu hannog i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd o ganlyniad i wyntoedd cryfion a llanw uchel.

Disgwylir y bydd y cyfnod peryglus rhwng 11.45am a 12.15pm.

Y mae'r ardaloedd penodol yn cynnwys Talacre,  Ty'n Y Morfa, Glannau Afon Dyfrdwy, Boot, Welston, Walwen a Pharc Busnes Maes Glas .

Gofynnir i bobl symud eitemau pwysig neu werthfawr i fan diogel, gan wneud yn siŵr eu bod hwy a'u teulu yn ddiogel a gwrando ar gyngor gan y gwasanaethau brys.

Y mae Canolfan Hamdden Treffynnon ar Ffordd Parc y Fron yng nghanol y dref yn cael ei defnyddio fel canolfan orffwys i unrhyw un sydd mewn angen.

Os na allwch fynd allan o'ch cartref galwch 101 a bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar eich cyfer.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen