Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn man storio ceir yn Sandycroft

Postiwyd

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Prince William Avenue, Sandycroft am 23.43 o'r gloch heddiw i ddelio gyda thân a oedd yn effeithio ar 52 o geir mewn man storio ceir sydd wedi eu hadfer wedi damweiniau.

 

Fe anfonwyd dau griw o Lannau Dyfrdwy a chriw o Fflint a Chaer ynghyd â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl.  Fe ddefnyddiwyd offer anadlu, dwy bibell ddŵr a phedair prif bibell i ddelio gyda'r tân.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn un o'r cerbydau a oedd yn cael ei storio yno.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen