Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ ym Mwlchgwyn

Postiwyd

Ar hyn o bryd mae diffoddwyr tân yn delio gyda thân difrifol mewn tŷ yn Wesley Road, Bwlchgwyn, Wrecsam.

Mae tri chriw o Wrecsam a chriw o Johnstown, Bwcle a Llangollen yn ogystal â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl yn y fan a'r lle yn ceisio brwydro'r tân drwy ddefnyddio offer anadlu a phibellau dŵr ar ôl derbyn yr alwad am 18.36 o'r gloch.

Llwyddodd pawb i ddod allan o'r eiddo yn ddianaf.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn delio gyda thân sylweddol sydd wedi lledaenu drwy'r eiddo cyfan.

"Mae'r rhew a'r gwyntoedd cryfion yn ei gwneud hi'n anodd i'r diffoddwyr tân ddelio gyda'r digwyddiad ond maent yn gweithio'n galed i geisio dod â'r tân dan reolaeth."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen