Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i beidio ag yfed a choginio dros y Nadolig yn dilyn tân mewn cegin ym Mae Colwyn

Postiwyd

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd peidio ag yfed a choginio dros y Nadolig a phwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref wedi i ddyn ifanc a'i deulu gael dihangfa lwcus o dân mewn cegin yn eu cartref ym mae Colwyn.

Cafodd diffoddwyr tân o Fae Colwyn eu galw i'r eiddo yn Grove Road, Bae Colwyn am  21.10 o'r gloch neithiwr, Rhagfyr 21. Llwyddodd y preswylydd i ddiffodd y tân wedi i'w fab goginio bwyd ac yna anghofio amdano.  Cychwynnodd y tân mewn gridyll ac fe achosodd ddifrod i'r popty a difrod mwg yng ngweddill y gegin, y cyntedd a'r ystafell fyw.  Cafodd y dyn 18 mlwydd oed driniaeth ragofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle.

Nid oedd larymau mwg gweithredol wedi eu gosod yn yr eiddo.

Mae'r tân hwn wedi digwydd wrth i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru geisio erfyn ar y cyhoedd i 'gymryd pwyll arbennig' yn y cartref ac ar y ffordd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol dros yr ŵyl ar Noswyl Nadolig, Nos Fawrth 24ain Rhagfyr rhwng 7.00pm a hanner nos, Nos Galan, Nos Fawrth 31ain Rhagfyr rhwng 6.30pm a 12.30am a Dydd Gwener 3ydd Ionawr rhwng 630am a 8.30am.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Nid yw yfed a choginio yn gyfuniad doeth - mae alcohol yn gwneud i bobl anghofio'r peryglon.  Mae'r neges yma'n bwysicach fyth yr adeg yma o'r flwyddyn wrth i nifer yfed alcohol wrth ddathlu dros yr ŵyl.

"Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno  - gall tân bychan ddatblygu'n dân difrifol mewn ychydig funudau a all beryglu bywydau.

"Gall coginio ar ôl yfed achosi i chwi greu cawlach o bethau yn y gegin.  Pob blwyddyn mae nifer helaeth o danau yn cael eu hachosi yn y gegin wedi i bobol ddod adref o'r dafarn a phenderfynu coginio pryd cyn mynd i'r gwely.  Fy nghyngor i yw y dylech chwarae'n saff. Paratowch bryd cyn mynd allan neu ewch i nôl tecawê ar y ffordd adref.

"Hefyd, peidiwch byth â cheisio diffodd y tân eich hun - ein cyngor yw ewch allan, arhoswch allan a galwch ni allan.

"Roedd y trigolion hyn yn ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i fynd allan yn ddianaf heb larwm mwg yn yr eiddo - mae'n hanfodol bod gennych larwm mwg gweithredol er mwyn eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel. Profwch eich larwm mwg drwy bwyso'r botwm profi bob wythnos i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel.  Am gyngor ar ddiogelwch tân, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref. Bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, cwblhau asesiad diogelwch tân, ac, os oes angen, byddant yn gosod larymau mwg gweithredol yn rhad ac am ddim.

"Mae'r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  I gofrestru am archwiliad, galwch ein llinell gymorth rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk , ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i  88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.  Gadewch eich manylion cyswllt a bydd aelod o'r Gwasanaeth yn cysylltu gyda chi i drefnu ymweliad ar adeg sy'n gyfleus i chi."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen