Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dychwelyd i wasanaeth arferol wedi i diffoddwyr tân streicio am y pumed tro

Postiwyd

 

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 10 o'r gloch heddiw (Nos Wener Rhagfyr 13).

 

Cafodd y streic ei chyhoeddi'r wythnos diwethaf ac roedd wedi ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.  Y mae streic arall wedi ei threfnu ar gyfer nos yfory (Nos Sadwrn Rhagfyr14) rhwng 6pm a 10pm.

 

Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.

 

"Fel y disgwylid, fe ddewisodd nifer uchel o ddiffoddwyr tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynd ar streic, ac o ganlyniad fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni.

 

"Nid oeddem yn gallu ymateb i ddigwyddiadau yn yr un modd ag arfer, ac o ganlyniad bu'n rhaid i ni ganolbwyntio ar anfon adnoddau i'r argyfyngau mwyaf difrifol.

 

"Fe weithiodd y trefniadau a roesom ar waith i gyflenwi gwasanaeth yn ystod y streic  yn dda.  Cafodd ein trefniadau parhad busnes cyfarwydd eu rhoi ar waith yn effeithlon yn syth wedi i'r streic gychwyn ac unwaith y daeth y streic i ben fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer.

 

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch - cawsom ein galw i ddau dân yn ystod y streic pedair awr.  Un o'r rhain oedd coelcerth a oedd wedi cael ei gadael yn llosgi heb oruchwyliaeth mewn cae yn Rhyd-y-mwyn, yr Wyddgrug am 19.17 o'r gloch a thân mewn peiriant golchi llestri mewn eiddo ar Ullswater Road, Bwcle am 19.54 o'r gloch. Llwyddodd pawb i fynd allan o'r eiddo yn ddianaf ac ni achoswyd difrod tân yn yr eiddo.

 

"Er bod y streic yma drosodd, y mae streic arall wedi ei threfnu rhwng 6pm a 10pm nos yfory a hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd."

 

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen