Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ ym Mae Colwyn

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio am bwysigrwydd larymau mwg wedi tân mewn tŷ ym Mae Colwyn yn ystod oriau mân y bore, Ddydd Mawrth 10fed Rhagfyr.

Cafodd criwiau o Fae Colwyn, Abergele a'r Rhyl eu galw i'r eiddo ar Woodland Road East am 1.34 y bore ac fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy bibell ddŵr a phedair set o offer anadlu i ddiffodd y tân.

Roedd larymau mwg wedi cael eu gosod yn yr eiddo ond roedd y batri wedi cael ei dynnu o un o'r larymau.  Gyda diolch llwyddodd y pump o bobl a oedd yn byw yn yr eiddo i fynd allan o'r eiddo yn ddianaf ond fe achosodd y tân ddifrod i'r groglofft a difrod dŵr yng ngweddill yr eiddo.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan system wifrio ddiffygiol.

MeddaiJohn Morgan, Rheolwr Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych chi larwm mwg gweithredol.  Pan fydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i fynd allan yn ddiogel. Gall larwm mwg gweithredol roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999.

"Mae'n bwysig bod gennych gynllun dianc o dân a'ch bod wedi ei ymarfer. Bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn llwyddo i ddianc o'r tân yn ddiogel pe byddai'r gwaethaf yn digwydd.  Y mae hefyd yn bwysig eich bod yn mynd i'r arfer o ddiffodd offer trydanol a chau drysau cyn mynd i'r gwely er mwyn atal lledaeniad mwg ac amddiffyn eich llwybrau dianc.  

"Am gyngor pellach am ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim.  I gofrestru, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk"

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen