Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nosweithiau Agored y System Dyletswydd yn Ôl y Galw - Dewch draw i’ch gorsaf leol!

Postiwyd

Mae gorsafoedd tân ar hyd a lled y rhanbarth wedi trefnu nosweithia agored ar gyfer darpar ddiffoddwyr tân fel rhan o ymgyrch newydd i recriwrio ychweneg o ddiffoddwyr tân i'r Ssytem Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Meddai Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol:  "Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn yr ardal y mae eu gorsaf dân leol yn ei gwasanaethu. Rydym yn edrych am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, a all gyrraedd eu gorsaf dân leol ymhen pum munud o gael eu galw allan.

"Dewch draw i'r noson agored yn eich gorsaf dân leol i gael gwybod mwy!

Dyddiadau'r Nosweithiau Agored

  • Nos Lun 14eg Ionawr - Gorsaf Dân yr Wyddgrug (6pm - 9pm)
  • Nos Fawrth 15fed Ionawr - Gorsaf Dân y Fflint (6pm - 9pm)
  • Nos Fercher 16eg Ionawr - Gorsaf Dân Llanelwy (6pm - 9pm)
  • Nos lun 21ain Ionawr - Gorsaf Dân Porthmadog (6pm-9pm)
  • Nos Fawrth 22ain Ionawr - Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog (6pm - 9pm)
  • Nos Fercher 23ain Ionawr - Gorsaf Dân Rhuthun (6pm - 9pm)
  • Nos Lun 28ain Ionawr - Gorsaf Dân Corwen (6pm - 9pm)
  • Nos Fawrth 29ain Ionawr - Gorsaf Dân Llanrwst (6pm - 9pm)
  • Nos Fercher 30ain Ionawr - Gorsaf Dân Dinbych (6pm - 9pm)
  • Nos Fawrth 5ed Chwefror - Gorsaf Dân Cerrigydrudion (6pm - 9pm)
  • Nos Fercher 6ed Chwefror - Gorsaf Dân Amlwch  -  (6pm - 9pm)

 

Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd gyrfa i ddiffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu galwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 a gofynnwch am gael eich cysylltu i'ch swyddfa sirol leol.  Dylai pob cais fod i law erbyn Ionawr 21ain.  

 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed.  Mae'n rhaid iddynt fod yn iach a phasio profion dawn.  Yn ychwanegol i'r ffi gadw fisol a delir, maent yn derbyn tâl ychwanegol am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.

 

Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o rôl hanfodol y mae personél rhan amser y gwasanaeth tân ac achub yn ei chwarae yn y gymuned ac y mae nifer o gyflogwyr yn fodlon rhyddhau staff i ddiffodd tanau a mynychu digwyddiadau brys eraill.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen