Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r Ymgyrch ‘Gwylia’r Cloc - Neu Bydd Fflamau Toc!’ Yn Wrecsam

Postiwyd

Wyddoch chi mai coginio bwyd yw prif achos dros hanner y tanau bwriadol yn y cartref yng Ngogledd Cymru - a bod y ffigwr hwn yn codi i dros 58% yn ardal Wrecsam, sydd gan y nifer uchaf o danau yn ymwneud â choginio ar gyfer pob pen o'r boblogaeth?

Dyna pam bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ymgyrch newydd heddiw i geisio mynd i'r afael â'r ystadegyn brawychus hwn.

Mae'r ymgyrch 'Gwylia'r Cloc - Neu bydd fflamau toc!' yn dwyn i'r amlwg beryglon peidio â thalu sylw pan fyddwch yn coginio a pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb yn gofalu amdano.

Peidiwch â gwneud cawlach o bethau yn y gegin drwy anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon am yn rhy hir, gadel y saim yn eich sosban sglodion i orboethi, llosgi tost ac anghofio diffodd y popty.  Gall y rhain arwain at anafiadau difrifol, neu, yn fwy difrifol fyth, ladd rhywun.

Dyna pam y bydd diffoddwyr tân yn yr ardal dros y ddau fis nesaf yn siarad gyda siopwyr am sut i gadw'n ddiogel yn y gegin.  Byddant hefyd yn dosbarthu amseryddion cegin i annog pobl i gadw diogelwch mewn cof a chofio gadw llygaid ar y cloc pan fyddant yn coginio.

Mae'r ymgyrch pwysig hwn yn cynnwys hysbysebion ar gefn bysys yn ardal Wrecsam yn ogystal â dosbarthu taflenni gwybodaeth yn yr ysgolion lleol.  Y gobaith yw y bydd hyn denu pobl i'r archfarchnadoedd lleol yn y dref lle bydd staff y Gwasanaeth Tân ac Achub yno i roi cyngor angenrheidiol siopwyr.

Dywedodd Paul Whybro o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i wneud popeth o fewn ein gallu i amlygu'r ystadegyn hwn. Ond, er gwaethaf ein holl ymdrechion, ni allwn orfodi pobl i newid eu ffordd o fyw - gallwn gynnig cyngor i bobl, ond mae'n rhaid i'r unigolyn gymryd sylw o'r cyngor hwnnw er mwyn cadw'n ddiogel.

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cynnau yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio bod bwyd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, methu â chanolbwyntio neu wedi bod yn yfed.  Gall hyn arwain at ganlyniadau trychinebus.

"Felly cymrwch sylw o'r ymgyrch, dewch draw i'n gweld yn eich archfarchnad leol- cewch amserydd cegin handi iawn a bydd cyfle i ennill hamper o fwydydd moethus drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

"Peidiwch ag anghofio bod larymau mwg yn arbed bywydau. Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.

Dyma ein prif gynghorion ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:

  • Os oes raid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres.
  • Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i danio poptai nwy.  Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel.
  • Gadewch yn siŵr nad yw handlenni'r sosbenni yn mynd dros ochr y pentan
  • Cadwch y popty, pentan a'r gridyll yn lân - gall saim fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch byth â sychu dim byd uwchben y popty.
  • Cymrwch ofal os byddwch yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Pan fyddwch wedi gorffen coginio cofiwch ddiffodd popeth yn llwyr
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
  • Peidiwch â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  • Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gael i rannu cynghorion yn y mannau canlynol:

Chwefror 17      Morrisons (lansiad)

Mawrth 2            Lidl Ffordd yr Wyddgrug

Mawrth 9            Tesco

Mawrth 16          Cooltrader

Mawrth 23          Lidl Ffordd Wrecsam

Mawrth 30          Asda

Ebrill 13              Aldi

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen