Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Carafannau Yn Dilyn Tân Yn Llangollen

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhoi cyngor diogelwch i garafanwyr a gwersyllwyr yn dilyn tân mewn carafán yn Llangollen neithiwr lle bu farw dyn.

Mae hyn yn dilyn y tân trasig hwnnw a ddigwyddodd mewn carafán yn Abermaw fis Mehefin diwethaf lle bu farw dau ddyn a lle cafodd merch ddyflwydd oed ei hanafu'n ddifrifol.

Dywedodd Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rwyf yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r ymadawedig.

"Mae tân yn gallu digwydd unrhyw bryd yn unrhyw le - ac mae'n bwysig i bob un ohonom fod ar ein gwyliadwriaeth a gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hanwyliaid yn ddiogel. Os bydd tân, mae carafannau'n gallu bod yn fwy peryglus na thŷ gan eu bod yn llai ac yn fwy cyfyng - mae'n hanfodol cael larwm mwg er mwyn rhoi rhybudd cynnar fod yna dân."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori'r rhai sy'n trefnu gwyliau mewn carafán neu babell i gadw'r cyngor canlynol mewn cof:

Byddwch yn barod
- Gofalwch fod pebyll neu garafannau o leiaf chwe metr oddi wrth ei gilydd
- Holwch beth ydi'r trefniadau diffodd tân ar y safle, a ble mae'r ffôn agosaf
- Gosodwch larwm mwg gweledol, a gofalwch ei fod yn gweithio
- Gofalwch fod yna offer diffodd tân llawn dŵr neu bowdwr sych, a'i fod y tu mewn i'r garafán wrth ymyl y drws am allan, a bod blanced dân wrth ymyl y lle coginio
- Cadwch fflachlamp mewn lle cyfleus rhag ofn bydd argyfwng - peidiwch â defnyddio cannwyll
- Peidiwch â gadael plant ar eu pen eu hunain mewn carafán - a chadwch fatsys a thanwyr allan o'u gafael
- Peidiwch â gorlwytho socedi neu lîd estyniad os oes gennych gysylltiad â chyflenwad trydan, a gofalwch fod y peiriannau trydanol yn gweithio'n iawn
- Gofalwch fod pawb yn gwybod sut i agor ffenestri a drysau i ddianc
- Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy draw oddi wrth bebyll.
- Peidiwch â choginio y tu mewn i'ch pabell.
- Byddwch yn barod i dorri'ch ffordd allan o'ch pabell os bydd tân.
- Os bydd eich dillad yn mynd ar dân, ARHOSWCH, DISGYNNWCH A RHOLIWCH.
- Ni ddylai offer sy'n llosgi olew gael eu defnyddio y tu mewn i bebyll neu wrth eu hymyl.
- Ni ddylai offer coginio gael eu defnyddio mewn pebyll bychain.
- Peidiwch ag ysmygu y tu mewn i bebyll.
Os bydd yna dân:
- Dywedwch wrth bawb i fynd allan ar unwaith. Mae tanau mewn pebyll a charafannau'n lledu'n gyflym.
- Galwch y gwasanaeth tân ac achub.
- Rhowch gyfeirnod map. Neu, cyfeiriwch at fferm neu dafarn er mwyn ei gwneud yn haws i'r gwasanaeth tân ac achub ddod o hyd ichi.

Nwy potel:
- Mae angen bod yn ofalus tu hwnt oherwydd gallai silindrau nwy ffrwydro mewn tân
- Cadwch silindrau y tu allan i'r garafán oni bai fod lle arbennig wedi ei ddarparu y tu mewn ar eu cyfer
- Cyn mynd allan neu adael y garafán, diffoddwch bob offer - dylai'r silindr gael ei ddiffodd hefyd oni bai fod offer megis oergell wedi cael ei gynllunio i aros ymlaen trwy'r amser
- Peidiwch byth â defnyddio stof neu wresogydd pan fyddwch yn teithio.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim i bawb, gan gynnwys carafanwyr, a byddant yn gosod larymau mwg lle bo angen - cysylltwch â'r rhif rhadffôn 24 awr, sef 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost at dtc@gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen