Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dod o Hyd I Gorff Yn Dilyn Tân Yn Llangollen

Postiwyd

Galwyd criwiau i barc carafannau ar Ffordd yr Abaty, Llangollen am 23:11 o'r gloch neithiwr, Dydd Llun Chwefror 13, i ddelio â thân mewn carafán.

Fe ddefnyddiodd dau griw o Langollen ac un criw o'r Waun ddau set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân.

Yn drist iawn, daethpwyd o hyd i gorff dyn a oedd yn ei 40au yn y garafán.

Mae ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen