Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân yn amlygu pwysigrwydd diogelwch tân dros yr ŵyl

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn amlygu pwysigrwydd diogelwch tân dros yr ŵyl yn ystod ymweliad â Gorllewin y Rhyl yr wythnos diwethaf.

Fe dreuliodd ddiffoddwyr tân ddiwrnod yn sgwrio gyda siopwyr y tu allan i neuadd y dref Ddydd Mercher, gan siarad gyda thrigolion lleol am ddiogelwch tân a rhannu amseryddion cegin gyda neges benodol. Bu iddynt gwblhau nifer o archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn yr ardal leol yn ogystal.

Buont yn trafod peryglon fel gadael bwyd yn coginio a chanhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt a diogelwch goleuadau Nadolig.

Un o'r prif beryglon a amlygwyd oedd coginio ar ôl bod yn yfed - yn 2007, bu farw Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o Ruthun, mewn tanau yn y cartref a oedd wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion. Roedd y ddau wedi bod yn yfed, ac wedi coginio bwyd ar ôl cyrraedd adref.  Roedd Andrew wedi gorffen coginio ac wedi disgyn i gysgu ar y soffa ond wedi anghofio diffodd y nwy. Roedd Sean yntau wedi disgyn i gysgu ac wedi anghofio tynnu'r sosban sglodion oddi ar y stôf. Bu i'r sosbenni sglodion orboethi a mynd ar dân - ni ddeffrodd Sean ac Andrew fyth wedi hynny.

Meddai Tom Pye o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Peidiwch â gwneud cawlach o bethau yn y gegin drwy adael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno ac os ydych wedi bod yn yfed rydych yn fwy agored fyth i niwed oherwydd bod peryg i rywbeth dynnu eich sylw neu ddisgyn i gysgu. Os byddwch yn cysgu pan fydd tân yn cynnau, yna byddwch mewn trybini. Dyma pam ei bod yn hanfodol eich bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref.

"Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn cofio'r Nadolig hwn am y rhesymau anghywir - peidiwch â rhoi eich bywyd yn y fantol a chadwch at y cynghorion a restrir isod."

Cynghorion Diogelwch ar gyfer y Nadolig

Cofiwch ddiffodd golau eich coeden Nadolig a thynnwch y plwg gyda'r nos neu os oes raid i chi adael yr ystafell am gyfnod hir.

  • Gwnewch yn siŵr bod marc Diogelwch Safon Prydeinig ar eich goleuadau Nadolig.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod canhwyllau mewn canwyllbrennau addas rhag ofn iddynt gael eu taro, a pheidiwch â gadel canhwyllau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt am gyfnod hir.
  • Gwnewch yn siŵr bod gard ar danau agored a chadwch bapur lapio, addurniadau Nadolig ayyb, ymhell o'r tân.
  • Gwnewch yn siŵr bod ysmygwyr yn diffodd eu sigaréts yn llwyr.
  • Cymrwch ofal ar ôl yfed alcohol.
  • Cofiwch brofi, nid difaru - Profwch eich larymau mwg yn rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio a pheidiwch â chael eich temtio i dynnu batris eich larymau mwg er mwyn eu defnyddio mewn anrhegion Nadolig.
  • Lluniwch gynllun dianc. Ewch allan yn fyw - a yw pawb (yn cynnwys gwesteion) yn gwybod ble mae agoriadau drysau a ffenestri yn cael eu cadw?
  • Peidiwch â gadael i ddim byd dynnu eich sylw wrth goginio - bydd tân yn cynnau pan na fyddwch yn  canolbwyntio.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyflenwi ac yn gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim, ac yn rhannu cynghorion diogelwch tân yn ogystal â'ch helpu i lunio cynllun dianc.  I fanteisio ar y gwasanaeth cyfeillgar ac anffurfiol hwn, trefnwch Archwiliad Diogelwch Tân am ddim drwy alw ein llinell 24 awr ar 0800 1691234neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen