Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Anrhegion Nadolig cynnar i enillwyr cystadleuaeth y gwasanaeth tân ac achub

Postiwyd

Cafodd un o'n dilynwyr ar facebook a myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr anrhegion Nadolig cynnar fel rhan o'r ymgyrch diogelwch i fyfyrwyr a drefnwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

I gyd fynd â dechrau'r tymor newydd ym mis Medi fe gomisiynodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fyfyrwyr theatr a pherfformiad o Brifysgol Glyndŵr i gynhyrchu ffilmiau byr i hybu diogelwch tân ymysg myfyrwyr.  Cafodd y rhain eu cyhoeddi ar dudalennau You Tube  a Facebook y Gwasanaeth.  Roedd pob un o'r chwe fideo i fyfyrwyr yn cynnwys straeon a oedd yn ymwneud â sawl thema wahanol - roedd gan bob un neges ergydiol.  

Cafodd y pum fideo a gynhyrchwyd eu defnyddio yn ystod cystadleuaeth Facebook Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru lle gofynnwyd i'n dilynwyr 'hoffi' eu hoff fideo gyda chyfle i un 'hoffwr' lwcus ennill Kindle newydd sbon danlli.

Robyn Hawkins o Groesoswallt, sydd newydd raddio'n athrawes, oedd yr enillydd lwcus a ddewiswyd ar hap. Fe dderbyniodd hi ei gwobr, sef Kindle newydd, yr wythnos diwethaf.  Meddai: "Rydw i newydd raddio o Brifysgol Glyndŵr a dwi'n credu bod y fideos yn ffordd wych o rannu'r negeseuon hyn ymhlith myfyrwyr.  Rydw i mor falch 'mod i wedi ennill y Kindle!"

Fe gyflwynodd y Gwasanaeth docynnau sinema i'r myfyrwyr a gynhyrchodd y fideo mwyaf poblogaidd.  Roedd y myfyrwyr canlynol Kayleigh Venables, Lee Titley, David Smith Ames ac Alexandra Newbon yn ymddangos yn y fideo mwyaf poblogaidd, sef 'Peidiwch â gwahodd angau i'r parti'.

Meddai Elen Mai Nefydd, uwch ddarlithydd theatr a pherfformio: "rydan ni'n gweithio gyda sefydliadau allanol yn aml iawn er mwyn rhoi cyfle i'n myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiectau go iawn, a dyma  oedd y prosiect diweddaraf.

"Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i wneud rhywbeth ychydig bach yn wahanol i hybu diogelwch tân yn ystod wythnos y glas ac felly cawsom ein gwahodd i gymryd rhan.

"Yn wreiddiol, roeddent wedi bwriadu dewis un o blith y pum fideo i ddefnyddio yn yr ymgyrch, ond gan eu bod yn hoffi'r fideos cymaint fe benderfynwyd y byddai pob un yn cael eu defnyddio.  Mae'n braf gweld bod y grŵp a gynhyrchodd y fideo mwyaf poblogaidd wedi derbyn gwobr, ac rydw i wedi clywed bod y myfyrwyr wedi cael ymateb positif iawn i'r holl fideos a gynhyrchwyd.

"Mae llwyddiant y prosiect yn dyst i waith caled y myfyrwyr ac y mae hefyd yn dangos sut y gall sgiliau theatr a pherfformio fod yn ddefnyddiol iawn mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol.

Meddai Gareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cyfle i weithio gyda myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵrac roeddem wedi synnu gyda safon y gwaith.

"Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn deall pwysigrwydd cadw'n ddiogel wrth gael hwyl - a thrwy weithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i greu'r fideos byr ac anghyffredin yma rydym yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn gwrando ar ein negeseuon hanfodol.

"Roedd y fideos yn boblogaidd iawn ac rydym yn falch bod cymaint o bobl wedi eu mwyhau  - gan mai myfyrwyr oedd wedi eu cynhyrchu roedd y negeseuon yn taro tant gyda'n cynulleidfa darged."

I wylio'r fideos ewch i www.facebook/northwalesfireservice neu fel arall ewch i www.youtube.com/nwalesfireservice.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen