Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymateb aml-asiantaeth i'r tywydd garw yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'r RNLI er mwyn ymateb i'r anawsterau y mae'r tywydd garw yn eu hachosi yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, yn Llanelwy a Sir Ddinbych yn arbennig.

Meddai Uwcharolygydd Peter Newton, sy'n cydlynu ymateb y gwasanaethau brys: "Rydym wedi trefnu ymateb amlasiantaeth i'r tywydd garw er mwyn sicrhau mai diogelwch pobl sy'n cael blaenoriaeth ac rydym yn gweithio'n agos â'n partneriaid er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg i'r cyhoedd.

"Mae holl adnoddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael eu defnyddio hyd yr eithaf ar hyn o bryd.  Ers 6pm neithiwr mae'r gwasanaeth wedi derbyn dros 130 o alwadau ac mae pob teclyn a darn o offer achub sydd ganddynt ar waith ledled y rhanbarth yn ymateb i argyfyngau.  Ar eu rhan, ac er mwyn eu cynorthwyo nhw i flaenoriaethau galwadau, gofynnaf i'r cyhoedd beidio â galw'r Gwasanaeth Tân ac Achub oni bai eu bod yn credu bod bywydau mewn perygl, nid dim ond os bydd dŵr yn mynd i mewn i gartrefi ond bod modd i'r preswylwyr gadw'n ddiogel drwy fynd i fyny'r grisiau neu fynd at deulu neu gymdogion."

O ran trefniadau teithio, os yw eich siwrne yn hanfodol, cysylltwch â Traffic Wales neu ewch i'w gwefan, neu gwrandewch ar eich gorsaf radio leol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cychwyn.  Trefnwch eich siwrne'n ofalus a chymerwch ofal gan yrru yn ôl yr amodau.

Nid oes gan y Gwasanaeth Tân ac Achub gyflenwad o fagiau tywod felly gofynnir i drigolion gysylltu ag Adran Briffyrdd eu Hawdurdod Lleol.

Gofynnir i'r cyhoedd i ddilyn cyngor Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch yr hyn y dylent ei wneud os bydd llifogydd yn bygwth eu cartrefi drwy ddilyn y ddolen isod:

/keeping-you-safe/near-water/advice.aspx?lang=en

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen