Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dechrau da i Ymgyrch Bang

Postiwyd

 

Mae dros £15,000 o nawdd ariannol wedi cael ei rannu rhwng prosiectau i ddargyfeirio pobl ifanc rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru dros gyfnod Noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.

 

Mae'r Adran Diogelwch Tân Cymunedol, Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru a PACT (Ymddiriedolaeth yr Heddlu a'r Gymuned) wedi rhoi nawdd i 78 o brosiectau y mae'r Timau Plismona  Cymdogaeth a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gysylltiedig  â hwy.

 

"Cafodd y nawdd ei roi fel rhan o Ymgyrch BANG (Bihafia ar Noson Guto), sef menter ar y cyd rhwng Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a'u partneriaid" meddai  David Evans o Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned.

 

"Cafwyd ceisiadau am nawdd gan dimau plismona o bob rhan o Ogledd Cymru i'w cynorthwyo i gynnal gweithgareddau fel partis Calan Gaeaf er mwyn ymgysylltu â phobl ifanc yn eu cymunedau lleol a'u dargyfeirio rhag ymddwyn yn wrthgymdeithasol".

 

Ychwanegodd: "Rydym yn gwybod fod 'na waith gwerth chweil yn digwydd yn y cymunedau a'n gobaith yw y bydd gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn meithrin cysylltiadau gwell rhwng pobl ifanc a'r Heddlu ac asiantaethau eraill. Rhaid llongyfarch yr holl dimau am eu hymdrechion a'u gwaith caled."

 

Mae'r gweithgareddau fydd yn cael eu cynnal ar draws ardal yr Heddlu yn cynnwys partis a disgos Nos Galan Gaeaf gyda chystadlaethau gwisg ffansi ac arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu. Mewn llawer o'r ardaloedd mae'r gweithgareddau wedi cael eu trefnu i wobrwyo'r bobl ifanc am eu hymddygiad da a'u cyfraniad tuag at eu cymunedau - er enghraifft am gymryd rhan mewn gweithgareddau codi sbwriel.

 

MeddaiGareth Griffiths, Uwch Reolwr Diogelwch Tân; 'Rydym ni eisiau cefnogi unrhyw nosweithiau tân gwyllt a choelcerthi y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu Heddlu Gogledd Cymru yn rhan ohonynt gan mai dyma'r ffordd fwyaf diogel o fwynhau'r dathliadau.

 

"Rydym yn annog pawb i fynychu nosweithiau tân gwyllt wedi'u trefnu - maen nhw'n fwy diogel ond hefyd yn ffordd ratach o fwynhau'r noson. Trwy helpu i gefnogi'r mentrau hyn gallwn drosglwyddo'r neges ynglŷn â diogelwch dros gyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt i lawer iawn o bobl ifanc a bydd hyn yn ei dro yn arwain at ddathliadau diogel a hapus i bawb yn yr ardal.

 

Mae swyddogion heddlu a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu wedi bod yn ymweld ag ysgolion a chlybiau ieuenctid i roi sgyrsiau am ddiogelwch personol ac effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bobl eraill. Dosbarthwyd posteri i drigolion bregus - un yn croesawu plant yn chwarae Cast neu Geiniog ac un arall yn gofyn iddyn nhw beidio â galw.

 

Mae addysgwr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi bod yn ymweld ag ysgolion er mwyn trafod peryglon chwarae â thân gwyllt a dosbarthu taflenni ar gyfer y gystadleuaeth dylunio poster. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi, neu os hoffech gael copïau o'r posteri sydd ar gael, cysylltwch ag aelod o'ch Tîm Plismona Cymdogaeth drwy ffonio 101, neu edrychwch ar wefan yr heddlu lle cewch fanylion cyswllt yr aelodau tîm yn eich ardal chi.

 

I gael rhagor o fanylion am arddangosfeydd tân gwyllt wedi'u trefnu yn eich ardal, ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen