Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân angheuol ym Mhrestatyn

Postiwyd

Galwyd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dân mewn eiddo ym Maes y Groes, Prestatyn am 10pm ddydd Gwener 19eg Hydref 2012.

Fe anfonwyd dau griw o'r Rhyl ac un o Brestatyn i'r digwyddiad.  Fe aeth diffoddwyr tân mewn offer anadlu i mewn i'r eiddo gan defnyddio pibellau dŵr i ddiffodd y tân a chwilio am unrhyw  un a oedd wedi eu hanafu.    
 
Ar ôl mynd i mewn i'r eiddo daeth y criwiau o hyd i bump o bobl a gafodd eu cludo i'r ysbyty gan barafeddygon.  Cadarnhawyd fod dynes 20 mlwydd oes a dau o blant, bachgen bedair blwydd oed a merch ddyflwydd oed, wedi marw wedi hynny.  Cafodd dyn 23 mlwydd oed a bachgen 15 mis oed eu trosglwyddo i ysbytai arbenigol am driniaeth.

Mae ymchwiliad ar y cyd i achos y tân yn cael ei gynnal rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru .

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dau o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae diweddariad pellach ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru http://www.north-wales.police.uk/news__appealsnbsp.aspx

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen