Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân Angheuol Llandudno

Postiwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn yn ei chwedegau wedi marw yn dilyn tân mewn fflat yn Llandudno.

Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i adeilad amlfeddiannaeth yn Stryd Mostyn, Llandudno am 7.00am ddydd Sul Ionawr 1af.
Llwyddodd hyd at 10 o bobl eraill oedd yn byw yn yr adeilad i ddianc yn ddianaf ond cadarnhawyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Defnyddiwyd tri pheiriant tân ac un peiriant ag ysgol ac esgynlawr i drin y tân. Ni chredir bod y tân yn un amheus.

Mae'r ymchwiliad i union achos y tân yn parhau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen