Pass Plus Cymru
Pass Plus Cymru
Wedi pasio eich prawf gyrru? Dyma'r newyddion da...
…beth am ddarganfod mwy o dechnegau, awgrymiadau
a syniadau gyrru am £20 yn unig (os ydych chi rhwng 17 a 25 oed ac yn byw yng Nghymru).
…a does dim prawf! Cefnogir y cynllun gan Lywodraeth Cymru.
Dyma sut mae’n gweithio...
Byddwch yn canolbwyntio ar:
- Fynd ar y draffordd
- Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
- Mynd o gwmpas yn y nos
- Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
- Gyrru ar ffyrdd gwledig
- Meddwl ymlaen – yn union fel y gwnewch chi nawr
Beth gewch chi o hyn?
- Sgiliau gyrru gwell
- Mwy o obaith o yswiriant is *
- Llai o gyfle o gael damwain neu anafu’ch hun, ffrindiau a phobl eraill
Mae mwy o fanylion ar gael ar www.dragondriver.com